Henoed
CAFWYD pnawn diddorol yng nghwmni Liz James, Llithfaen mewn cyfarfod o Glwb yr Henoed ddydd Mawrth, 7 Mehefin. Croesawyd hi a’r aelodau gan y llywydd, Eluned Parry. Yn ddifyr iawn disgrifiodd Mrs James ei hail ymweliad â gwlad Israel. Treuliodd flwyddyn yn y wlad yn 1982 a chlywyd am ei hymweliad â Chartref Cristnogol i’r Henoed yno. Diolchwyd y gynnes iddi am rannu ei phrofiadau. Braf wedyn oedd cael cymdeithasu a sgwrsio dros baned a baratowyd gan Kathleen Roberts a Jane Roberts. Rhoddwyd gwobr y raffl gan Euronwy Jones â’r enillydd oedd Margaret Williams.
Bydd cyfarfod nesaf y Clwb ar ddydd Mawrth, 5 Gorffennaf pryd yn cynhelir Taith Ddirgel. Bydd y bws yn gadael Y Ffôr am 10yb. Enwau i Eluned Parry.
Oedfaon
PREGETHIR yng Nghapel Ebeneser y Sul yma, 19 Mehefin am 10yb gan y Parch Geraint Hughes. Cynhelir Oedfa Unedig o Fawl yn Y Drindod am 7yh.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.