Cynhaliwyd diwrnod cneifio llwyddiannus arall yn y Plas Coch, Y Bala, y penwythnos diwethaf.
Daeth cneifwyr o ar draws Cymru a Seland Newydd i gystadlu, ac eleni am y tro cyntaf roedd adran i’r cneifwyr iau gael cyfle arni.
“Mae’n ddiwrnod gwerth chweil i’r teulu i gyd a braf oedd gweld cefn y Plas Coch yn llawn o bobl a phlant o bob oed yn mwynhau,” meddai Elen Parry, tafarnwraig y Plas Coch.
Ychwanegodd Aeron Pughe sy’n enwog ar hyd Cymru ynghyd â’i ‘side kick’ Wil Hendreseifion: “Mae’n ddiwrnod penigamp a braf ydi gweld cymuned amaethyddol y Bala a thu hwnt yn tynnu at ei gilydd i gynnal y digwyddiad blynyddol yma; mae’n fraint gen i a Wil bod yn rhan ohono.”
Gwion Evans, o Lansannan, enillodd yr adran agored mewn 24 eiliad, Nicky Beynon aeth â theitl yr adran ‘Veterans’ mewn 38 eiliad, Dylan Jones, Ty Newydd, Nebo, yr adran hyn gydag amser o 26 eiliad ac Emlyn Jones o Gapel Curig enillodd yr adran iau mewn 30 eiliad.
Bydd cystadleuaeth arall yn cael ei chynnal ddydd Sul, 30 Gorffennaf hefo dosbarthiadau iau, hyn, agored a ‘veterans’ am 2yp yng nghefn y Plas Coch.
See this week’s north editions in shops and online on Thursday
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.