YR wythnos hon cyhoeddir llyfr newydd sy’n rhoi goleuni newydd ar Frwydr yr Iaith gan yr awdur Geraint Jones.
Mae’r gyfrol yn olrhain hanes cyfnod cynnar Cymdeithas yr Iaith yn y 1960au, gan fwrw golau ar ymdrechion dewrion yr unigolion a frwydrodd dros hawliau’r Gymraeg.
Trwy gyfweliadau personol, dogfennau hanesyddol ac atgofion yr awdur, mae Brwydr yr Iaith yn ail-fyw’r frwydr ddewr a barhaodd dros statws yr iaith Gymraeg. Mae’r llyfr yn cynnwys portreadau o arweinwyr egnïol y mudiad, yn ogystal â’r heriau a’r llwyddiannau a fu wrth iddynt ysgogi newid.
Wrth drafod ei gyfrol newydd Brwydr yr Iaith, dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd ei darllen yn ysbrydoli'r genhedlaeth ifanc i “godi eto i'r gad a brwydro dros yr iaith yn lle derbyn popeth yn wasaidd ac yn slafaidd”.
Wrth drafod y frwydr bresennol dros yr iaith, dywedodd fod “pethau'n isel, mae'r ysbryd i'w weld yn isel. Does 'na ddim ysbryd chwyldro yn sicr, does 'na'm ysbryd protestio, does 'na'm ysbryd ymladd o gwbl” meddai.
Lansiwyd y gyfrol yng Nghanolfan Uwchwyrfai, Clynnog Fawr, lle cyflwynodd yr awdur gopi o’r gyfrol i’w gyd-ymgyrchydd, Emyr Llywelyn oedd yn gydymaith ag ef yn y frwydr ac un o gymwynaswyr nawr yr iaith ar hyd ei oes.
Yn y gyfrol Brwydr yr Iaith mae Geraint Jones – y cyntaf i’w garcharu dros y Gymraeg – yn adrodd hanes y cyfnod cythryblus hwn o ganol berw’r brwydro.
O’r geni ym Mhontarddulais at y bedydd ar Bont Trefechan, cewch eich tywys gyda’r bobl ifainc heibio i’r tyndra mewnol a’r rhwystredigaethau, ac yn ein blaenau trwy brotestiadau Dolgellau, Llambed, Machynlleth, Abertawe, Pontypridd, Eisteddfod Aberafan a Chaerdydd.
Law yn llaw â chymeriadau’r to o arloeswyr a glywodd yr alwad i frwydro ac aberthu, gellir ail-fyw’r ymprydio a’r achosion llys a’r carchariadau a syfrdanodd y wlad gyda newydd-deb a dewrder ‘dulliau chwyldro’ y torcyfraith di-drais.