Mae ail rifyn y cylchgrawn hanes newydd, Hanes Byw, bellach ar werth yn y siopau.

Dywedodd Owain ap Myrddin ar ran Gwasg Carreg Gwalch fod ymateb cadarnhaol iawn wedi bod i’r rhifyn cyntaf.

Meddai: “Mi welsom ni yn syth fod hanes yn faes poblogaidd ymysg trwch darllenwyr Cymraeg.

"Nid yn unig mae’r gwerthiant wedi bod yn uwch na’r disgwyl, rydan ni wedi cael sawl neges yn diolch ac yn canmol.

"Y gobaith rŵan yndi adeliadu ar y gefnogaeth yma gyda’r ail rifyn.”

Pwysleisiodd Ifor ap Glyn, y golygydd, fod yr un amrywiaeth pynciau a’r un ymdrech i ddenu awduron newydd i’w weld yn amlwg yn yr ail rifyn: “Croeso i ail rifyn Hanes Byw. Mae’r ymateb i’r rhifyn cyntaf wedi bod yn hynod galonogol.

"Fel yr oeddem yn amau, mae ’na awch ymhlith pobl Cymru am gael gwybod mwy am hanes ein gwlad, a hynny yng nghyd-destun gwledydd eraill.”

Wrth drafod yr ail rifyn, dywedodd Ifor, “Yn y rhifyn hwn, trafodir dŵr Cymru yng nghyd- destun polisïau cyflenwi dŵr ar draws y byd, a golwg ar sut mae machismo Sbaen yn gefndir i helynt Rubiales gyda thîm pêl-droed merched y wlad.

"Rhown gynnig hefyd ar brofi hanes mewn ffyrdd gwahanol, gyda dwy golofn newydd: mwynhau hanes wrth fynd am dro yw’r nod gyda ‘Bro a Bryngaer’, tra bo ‘Hanes Cymru mewn hanner can cerflun’ yn ystyried y straeon tu ôl i’r cofebau ar strydoedd ein gwlad.”

Hanes Byw 2, Rhifyn Gaeaf 2023–24, Gwasg Carreg Gwalch. Golygydd: Ifor ap Glyn; Is-olygydd: Owain ap Myrddin; £4.95.