BYDD un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru, Caryl Lewis, yn ymweld â Chastell Aberteifi ddydd Iau, 21 Ionawr am 10.30yb er mwyn trafod ei nofel ddiweddaraf, Y Bwthyn.

Trefnir y digwyddiad hwn gan un o ddosbarthiadau Cymraeg i Oedolion.

Medd un o’r trefnwyr, Richard Vale: “Mae croeso cynnes i bawb sydd wedi mwynhau y nofel gampus hon. “Byddwn yn cwrdd yn Ystafell Twr y Castell am ryw awr a hanner, a cheir cyfle i holi cwestiynau am y nofel a gwaith Caryl yn gyffredinol.”

Nofel gynnil, delynegol yw’r Bwthyn am hanes Owen, a ddaw i aros yn y bwthyn ar fferm fynyddig Enoch ac Isaac, Hen Hafod. Yno, mae bywydau’r tri yn newid am byth.Mae Caryl yn byw yn Goginan, ger Aberystwyth ond yn dod o ardal Dihewyd yn wreiddiol.

Mae y Bwthyn eisoes wedi derbyn canmoliaeth a chlod gan nifer o ddarl-lennwyr ac adolygwyr fel ei gilydd, gan hawlio ei lle fel un o nofelau fwyaf poblogaidd y flwyddyn ddiwethaf. Cadarnhaodd gwasg Y Lolfa iddi gael ei hail-argraffu o fewn tri mis o’i chyhoeddi. Argraffwyd 2,000 o gopiau yn wreiddiol, sy’n werthiant ardderchog i nofel Gymraeg.

Gan fod llefydd ar y digwyddiad yn gyfyng, bydd yn rhaid archebu lle o flaen llaw trwy gysylltu â Richard Vale, e-bost [email protected] neu dros y ffôn ar 01239 711653. Mae mynediad am ddim.