Natural Resources Wales (NRW) has launched a new opportunity for mobile food and drink businesses to support and enhance some of the nation’s best-loved outdoor locations.

NRW is inviting bids for nine mobile catering concessions able to provide hot and/or cold food and beverages across a series of well used forests and woodlands that attract thousands of walkers, cyclists, families and nature enthusiasts each year. Successful vendors will demonstrate a clear commitment to reducing food miles, eliminating single use plastics, and adopting greener operational practices.

Concessions will be available at the following sites:

  • Forest Fawr, Caerphilly
  • Llantrisant Woods
  • Hafren Forest
  • Tan y Coed, Machynlleth
  • Newborough (2 opportunities)
  • Coed y Brenin
  • Van Road, Rudry
  • Chepstow Park Woods

Further sites will be announced in later this year.

NRW manages around 40 per cent of the Welsh Forest Resource, covering an area of 123,000 hectares and is seeking like minded partners who can help enrich visitor experiences while championing environmentally responsible trading.

Sustainable energy use, responsible waste management and high environmental standards will form key elements of every proposal.

Neil Stoddart, Head of Sustainable Commercial Development for NRW, said: “This is a fantastic opportunity for catering businesses to operate in vibrant, high footfall outdoor settings while contributing directly to the protection and enjoyment of Wales’s natural environment.

“We are looking for enthusiastic partners who can deliver great service, present their units to the highest standards, and play an active role in caring for these special places.”

The tender process opens on Monday, February 2 2026. The concessions will be awarded through a competitive tender process, with full details available in NRW’s Invitation to Quote. For more information or to access the tender documents, please visit the Sell2Wales website here.

Meet the Buyer Event

NRW is holding a Meet the Buyer Event on Tuesday, February 10 2026. This will be an online event and will give interested businesses the opportunity to ask any questions they may have on the bidding process or specific sites.

To register for this event please email your details including name, email address, business name, location in Wales, to [email protected]

.................................................................................................................................................................................

Mae CNC yn agor cyfleoedd unedau arlwyo newydd mewn cyrchfannau awyr agored poblogaidd

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi lansio cyfle newydd i fusnesau bwyd a diod symudol i gefnogi a gwella rhai o leoliadau awyr agored mwyaf poblogaidd y genedl.

Mae CNC yn gwahodd cynigion ar gyfer naw uned arlwyo symudol sy'n gallu darparu bwyd a diodydd poeth a/neu oer ar draws cyfres o goedwigoedd a choetiroedd a ddefnyddir yn helaeth ac sy'n denu miloedd bob blwyddyn o gerddwyr, beicwyr, teuluoedd a rhai sy’n caru natur. Bydd gwerthwyr llwyddiannus yn dangos ymrwymiad clir i leihau milltiroedd bwyd, dileu plastigau untro, a mabwysiadu arferion gweithredol mwy gwyrdd.

Bydd unedau ar gael yn y safleoedd canlynol:

  • Fforest Fawr, Caerffili
  • Coed Llantrisant
  • Coedwig Hafren
  • Tan y Coed, Machynlleth
  • Niwbwrch (2 gyfle)
  • Coed y Brenin
  • Heol y Fan, Rhydri
  • Coed Cas-gwent

Bydd rhagor o safleoedd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Mae CNC yn rheoli tua 40% o Adnoddau Coedwig Cymru, sy'n cwmpasu ardal o 123,000 hectar ac mae'n chwilio am bartneriaid o'r un anian a all helpu i gyfoethogi profiadau ymwelwyr a hynny wrth hyrwyddo masnachu cyfrifol o ran yr amgylchedd.

Bydd defnydd cynaliadwy o ynni, rheoli gwastraff yn gyfrifol a safonau amgylcheddol uchel yn elfennau allweddol o bob cynnig.

Meddai Neil Stoddart, Pennaeth Datblygu Masnachol Cynaliadwy CNC: “Mae hwn yn gyfle ardderchog i fusnesau arlwyo weithredu mewn lleoliadau awyr agored bywiog sy’n denu llawer o ymwelwyr, gan gyfrannu’n uniongyrchol at ddiogelu amgylchedd naturiol Cymru a’r mwynhad mae’n ei roi.

“Rydym yn chwilio am bartneriaid brwdfrydig a all ddarparu gwasanaeth rhagorol, cyflwyno eu hunedau i’r safonau uchaf, a chwarae rhan weithredol wrth ofalu am y lleoedd arbennig hyn.”

Mae'r broses dendro yn agor ar ddydd Llun, 2 Chwefror 2026. Bydd yr unedau'n cael eu dyfarnu drwy broses dendro gystadleuol, a cheir y manylion llawn yng Ngwahoddiad i roi Dyfynbris CNC. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth neu i gael mynediad at y dogfennau tendro, ewch y GwerthiGymru gwefan View notice - Sell2Wales

Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr

Mae CNC yn cynnal Digwyddiad Cwrdd â'r Prynwr ar ddydd Mawrth, 10 Chwefror 2026. Bydd hwn yn ddigwyddiad ar-lein a fydd yn rhoi cyfle i fusnesau sydd â diddordeb ofyn unrhyw gwestiynau sydd ganddynt am y broses dendro neu am y safleoedd penodol.

Er mwyn cofrestru ar gyfer y digwyddiad hwn anfonwch eich manylion drwy e-bost, gan gynnwys enw, cyfeiriad e-bost, enw busnes, lleoliad yng Nghymru, i [email protected]