Merched y Wawr

AETH yr aelodau ar helfa drysor ddifyr heb symud cam o’r neuadd yng nghyfarfod cyntaf 2016 gyda helfa ar fap dan gyfarwyddyd Chris Evans o Sardis, Pencaenewydd. Agorwyd y cyfarfod gan y llywydd yn trafod materion cyffredinol ac yn tynnu sylw at yr Wyl Wanwyn a gynhelir yn Abersoch eleni.Cyfeiriodd at Mair, Cwmafon a Norah sy’n gwella ar ôl eu triniaethau, a June sydd yn yr ysbyty. Yna croesawodd a chyflwynodd yn gwr gwadd rhadlon a chafwyd orig hwyliog yn ei gwmni. Ar ôl rhannu’r merched i dimau o bedair, rhoddwyd map manwl a rhestr o gwestiynau i bob tîm.Y dasg oedd eu datrys trwy chwilio yn y map am leoedd arbennig a’r daith o Bwllheli, drwy fro Eifionydd ac yn ôl i’r man cychwyn, ffordd dda i gasglu gwybodaeth am ardal. Yr enillwyr oedd Beti, Iris, Wendy a Iola.Diolchwyd i Mr Evans gan Iorwen a hi hefyd enillodd wobr y raffl rhoddedig gan Jano.Diweddwyd gyda phaned a bisgedi a baratowyd gan Jano ac eraill.Yr wythnos ganlynol yn y gystadleuaeth Bowlio Deg yn Glasfryn, daeth tîm Rabar, sef Anna, Dori, Jean W, Mair H, Margaret a Menna yn bedwerydd allan o 14 o dimau. Llongyfarchiadau i’r merched medrus.

Oedfa

BYDD yr oedfa y Sul, 31 Ionawr yn unedig yng Nghapel Bwlch, am 10yb.