Merched y Wawr

AR DDECHRAU’R cyfarfod a gynhaliwyd ar nos Lun, 16 Mai, cafwyd arolwg ar waith y flwyddyn. Derbyniwyd adroddiadau gan Elenid Hughes, yr ysgrifennyddes a gan y trysorydd, Hefina Davies -Wright. Diolchodd y llywydd Dulcie James, y swyddogion ac aelodau’r pwyllgor am eu cymorth yn ystod y flwyddyn ac i’r aelodau am eu cefnogaeth i’r cyfarfodydd. Dymunodd yn dda i’r swyddogion a’r pwyllgor newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd gweddill y noson yng ngofal Carys Stevens, arweinydd Gofal Lliniarol Hosbis yn y Cartref. Mae’n gynllun sydd yn seiliedig ar wasanaeth gwirfoddolwyr ac sydd yn cael ei gydnabod a’i ganmol gan y Bwrdd Iechyd lleol a’r cynulliad. Roedd hi’n galondid i ddeall fod cynifer yn barod i rannu eu sgiliau a’u diddordebau trwy ymweld â’r cartrefi, neu i gynnig eu gwasanaeth yn y siop elusen yn Heol y Wig. Mynegodd Dulcie ei diolch i Carys am ei chyflwyniad ardderchog ac am ei hymroddiad dros y gwaith. Cafodd yr aelodau gyfle i gyfrannu at y casgliad ac wrth ei gyflwyno i Carys, dymunodd bob llwyddiant i’r elusen Hosbis yn y Cartref. Bu aelodau’n cystadlu yn yr Wyl Haf yn Felinfach yn diweddar. Bu’r aelodau yn llongyfarch Jean Davies am ennill dwy wobr am goginio – un am sgoniau caws a’r llall am darten ‘bakewell’. Roeddent hefyd yn llongyfarch Hefina Davies-Wright am gael y drydydd wobr am goginio sgoniau caws. Yn yr Wyl Haf ym Machynlleth, cipiodd Lynne Blanchfield yr ail wobr yng nghystadleuaeth y dysgwyr, lefel ganolradd, am ysgrifennu am ‘fy hoff gân’. Bu llongyfarchiadau i Lynne. Roedd yn braf i bawb ei gweld hi’n cael ei anrhydeddu gyda’r dysgwyr eraill mewn seremoni arbennig ar y llwyfan.Bu llongyfarchadau i Doreen Jones am ennill y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth golff a hefyd i’r tîm a gafodd y drydedd wobr yn y cwis cenedlaethol ym mis Tachwedd a dderbyniodd dystysgrif yn yr Wyl ym Machynlleth. Bydd y wibdaith ddirgel yn cloi gweithgareddau’r flwyddyn ar ddydd Llun, 20 Mehefin. Bydd y bws yn gadael Coedlan y Parc am 12.30yp.

Stroke Club

AT THE AGM of the club on 24 May, the committee and members proposed, seconded and elected Audrey Evans to be our new president. She has been an amazing member for over 25 years, organising the monthly luncheons, the annual holidays, picnics, turkey and tinsel winter breaks and all the many whist drives throughout the year. Nothing has been too much trouble for her, she has been sorting out the menus and the arranging transport for all members. Members wished her all the very best in her role as president.

Bridge club

RESULTS on 17 May were: Joint 1 Jo Davies and Elenid Thomas / Alun Richards and Mike Yeo 3 Betty Brookes and Joyce Blair 4 Gwynant Edwards and Jeff Thomas. Results on 24 May were: 1 Jo Davies and Elenid Thomas 2 Pamela Woodhouse and Margaret James 3 Sue Sherman and Anne Edwards 4 Anne Burroughs and Mary Evans.

Defibrillator

A defibrillator is to be installed outside the Welsh Books Council in Aberystwyth. The defibrillator will be located on the outside of Castell Brychan. Money to pay for the expensive equipment was provided by Cymdeithas y Morfa, Clwb Cinio 95, The Welsh Books Council and Welsh Hearts. Pictured are: Gwynfor Jones, secretary of Cymdeithas y Morfa; Glan Davies, Welsh Hearts; Elwyn Jones, chief executive of the Welsh Books Council; Ifor Davies, treasurer of Cymdeithas y Morfa; and Robert Davies, president of Clwb Cinio 95.