Ym mis Mawrth roeddem ar grwydr unwaith eto ar gampws Coleg Ceredigion yn Llanbadarn yn gweld myfyrwyr y cwrs arlwyo wrth eu gwaith yn Aberista sef bwyty’r adran.

Roedd yr ystafell yn orlawn a chawsom wylio Jim West, pennaeth yr adran arlwyo, Jess Severs, wyneb blaen, a’r myfyrwyr Carys, Aled ac Oliver yn paratoi pryd tri chwrs: diod afal ac ysgawen, prif gwrs o basta ravioli cneuen fenyn, a phwdin o darten driog.

Ar ben y cyfan cawsom bob un flasu cyfran o’r seigiau hyfryd.

Ymwelodd aelodau Merched y Wawr ag Aberista, sef bwyty cwrs arlwyo Coleg Ceredigion
Ymwelodd aelodau Merched y Wawr ag Aberista, sef bwyty cwrs arlwyo Coleg Ceredigion (Llun wedi'i gyflenwi)

Dyna eiddigeddus oedd pawb o Gwenda Sippings gan mai hi oedd enillydd lwcus y raffl sef pryd i ddau yn Aberista.

Rwyn siwr y byddwn yn heidio i’r bwyty i wledda yn y dyfodol gan ei fod ar agor i’r cyhoedd ar ddyddiau Mawrth, Mercher ac Iau yn ystod y tymor ond rhaid archebu ymlaen llaw.

Byddwn yn ôl yn y Morfa’r mis nesaf i wrando sgwrs gan Morfudd Bevan Jones am gasgliadau celf y Llyfrgell Genedlaethol.

Ydych chi'n aelod o grŵp yn eich cymuned? Oes gennych newyddion, lluniau a fideos i'w rhannu? Anfonwch nhw i [email protected]