Dyma rai aelodau o Grwp Treftadaeth Plwyf Llanengan sydd wedi bod yn brysur dros yr wythnosau diwethaf yn trefnu arddangosfa hen luniau yn Neuadd Abersoch.
Cynhelir yr arddangosfa rhwng 20-31 Awst (ar gau ar ddydd Sul).
Mae’r arddangosfa wedi ei sefydlu ar y themâu ‘Ddoe a Heddiw’ yn bennaf, ond hefyd yn rhoi ychydig o sylw i ferched, gan ei fod yn 100 mlynedd ers i ferched gael yr hawl i bleidleisio, gyda lluniau o ferched pwysig yr ardal.
Ceir hefyd luniau o ardaloedd Bwlchtocyn, Cilan, Llangian, Llanengan, Sarn Bach, Abersoch a Mynytho.
Agorwyd yr arddangosfa yn swyddogol gan aelod o’r gr?p, sef Annette Thomas (chwith).
Gyda hi mae rhai o aelodau eraill y grwp, sef (chwith i dde): Iris Griffiths, Anna Jones, Yvonne Lloyd Jones, Janet Roberts, Margaret Roberts a John Elfyn Gruffydd.
Cambrian Newsy gogledd ar gael yn y siopau nawr






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.