Mae awdur o Dywyn yn rhan o gynllun newydd gan Mudiad Meithrin sydd yn annog lleisiau Cymraeg o blith cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifol Ethnig i ‘sgwennu straeon i blant bach.

Maent yn chwilio am bobl ddu, Asiaidd neu o leiafrif ethnig i ymuno efo cynllun ‘AwDUra’ fydd yn darparu cefnogaeth gan ddau enw mawr o fyd ‘sgwennu a chyhoeddi Cymru – Jessica Dunrod a Manon Steffan Ros.

Y nod yw annog creu straeon i blant bach cymuned Mudiad Meithrin a thu hwnt a’r gobaith fydd cyhoeddi straeon gan leisiau newydd.

Meddai’r awdur Manon Steffan Ros, sy’n byw yn Nhywyn: “Mae’n anrhydedd go iawn i mi gael bod yn rhan o brosiect AwDura.

Ers cyn cof, mae Cymru wedi bod yn gartref i drawsdoriad eang iawn o bobol, ond tydy hyn ddim yn cael ei adlewyrchu yn ein diwylliant o gwbl, ac mae’n bryd unioni’r cam yma a chymryd camau positif ac adeiladol i sicrhau cynrychiolaeth teg yn ein llenyddiaeth. Gall hyn ond cyfoethogi ein diwylliant.”

Dywedodd yr awdur Jessica Dunrod: “Mae’n bleser mawr gennyf gydweithio gyda Mudiad Meithrin i gychwyn ar brosiect a fydd yn mynd i’r afael â’r diffyg cynrychiolaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg a’r diffyg cefnogaeth a chyfleoedd i lenorion Cymraeg.

“Roedd yn hynod o anodd i mi wneud fy llyfrau, heb sôn am adael i’r byd wybod fy mod wedi eu creu.

Bydd y prosiect hwn yn sicrhau na fydd yr awduron du a brown nesaf yn ei chael hi mor galed ag y gwnes i ac rwyf wrth fy modd bod sefydliadau fel Mudiad Meithrin yn helpu i chwalu’r rhwystrau i awduron sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.”

I wneud cais, dylai ymgeiswyr anfon e-bost 100 gair neu fideo munud o hyd i egluro pam y dylen nhw gael eu dewis i [email protected] erbyn Mehefin 10, 2022.

Am fwy o wybodaeth, ewch i: https://meithrin.cymru/jobs/awdura/