Merched y Wawr

CAFODD 12 o aelodau’r gangen groeso cynnes yng nghangen Y Ganllwyd yn ddiweddar, lle buom yn dathlu Dydd Gwyl Dewi gyda’n gilydd.

Croesawyd ni gan Is-lywydd y gangen Elwen Jones, ac estynnodd gydymdeimlad â Iola Davenport, sydd wedi colli ei chwaer yn ddiweddar.Roedd aelodau’r Ganllwyd wedi bod yn brysur iawn yn paratoi gwledd ar ein cyfer, ac roedd y neuadd wedi ei haddurno’n hyfryd gyda nifer fawr o gennin Pedr a blodau eraill.

Wedi’r gwledda roedd yn amser paratoi ar gyfer y cwis, oedd wedi ei baratoi gan y ddau gwis-feistr gweithgar a hwyliog o’r Traws, sef Tom a Gretta Ellis.

Yn dilyn cystadleuaeth frwd, yr enillwyr teilwng oedd Y Ganllwyd — llongyfarchiadau!

Diolchodd Llewela, ein llywydd,yn gynnes iawn i bawb oedd wedi gwneud y noson yn un mor ddifyr. Dwy o enillwyr lwcus y raffl oedd Elinor a Jean.