Sefydliad y Merched

YN DRADDODIADOL y cinio blynyddol yw cyfarfod cyntaf y flwyddyn y gangen leol ac eleni cyfarfu’r aelodau yn Caffi Congl brynhawn Iau, 7 Ionawr. Croesawyd hwy yno gan y llywydd, Gwyneth Evans, Pont y Gof a balch oedd o weld bod yr holl o’r aelodau yn bresennol. Fel arfer roedd pryd ardderchog yn eu disgwyl a chafwyd sgwrsio difyr tra’n bwyta’r bwyd blasus. I ddilyn cyfnewidiwyd anrhegion penblwydd ac ar ran pawb diolchodd y llywydd i’r perchnogion am eu croeso cynnes a’r wledd a baratowyd ar eu cyfer.

Bydd cyfarfod nesaf y gangen nos Lun, 1 Chwefror, pryd y disgwylir Carol Jones i sôn am ‘Welsh Lady Jam’, Y Ffôr. Croeso cynnes i aelodau newydd ymuno. Cynhelir y cyfarfodydd ar y nos Lun cyntaf o bob mis (ac eithrio Awst) yn festri Capel Rhydbach am 7yh. Oedfaon/ServicesST BEUNO’S: 11am, English service.Capel Rhydbach: 5yh, y Parch R O Roberts, gweinidog.

Whist Drive

A WHIST drive will be held at Ysgol Pont-y-Gof on Thursday, 21 January, at 7.30pm. All proceeds will go towards the upkeep of Meillteyrn and Llandegwning cemeteries.