Sefydliad y Merched
CAFWYD noson ddifyr iawn yng nghwmni’r grefftwraig Miriam Jones, Llanengan mewn cyfarfod o’r gangen leol nos Lun, 7 Mawrth. Llywyddwyd a chroesawyd pawb gan Gwyneth Evans, Pont y Gof.Wedi gyrfa addysg a cholegol lwyddiannus a theithio dramor, mae Miriam Jones bellach yn gweithio yng Ngholeg Meirion-Dwyfor.Fel amryw o’i theulu o’i blaen, mae’n ymddiddori mewn gwaith coed ac wedi dechrau busnes ei hun yn y maes yma. Roedd wedi dod ag esiamplau o’i chrefftwaith pren gyda hi i’r cyfarfod gan gynnwys, powlenni, potiau dal blodau, clustdlysau, mwclis ac ati a mawr edmygwyd y gwaith cain gan bawb. Roedd cyfle i’r aelodau brynu eitemau o’r gwaith ar y diwedd pe dymunent. Diolchwyd yn gynnes iddi gan y llywydd. Gofalwyd am y te gan Dilys Hughes, Erw Wen. Hi hefyd roddodd wobr y raffl a enillwyd gan Miriam Jones.Bydd y cyfarfod nesaf ar nos Fawrth, 5 Ebrill, pryd y disgwylir Eleri Hughes i sôn am AHNE Llyn.



.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)


Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.