Ysgol BotwnnogYSGOL Botwnnog held its end-of-term Prom for Year 11 pupils. Please see attached photos.Sefydliad y Merched
YN absenoldeb y llywydd, Gwyneth Evans, Pont y Gof, arweinwyd cyfarfod y gangen leol nos Lun, 4 Gorffennaf, gan Shirley Ellis, Graig. Ar ôl croesawu’r aelodau, cyflwynodd a chroesawodd y wraig wadd, sef Mem Owen, Chwilog.Gyda chymorth lluniau ac ati, soniodd Mrs Owen yn hwyliog iawn am ei gwyliau yn Hawaii.Diddorol oedd clywed am ei disgrifiad o’r wlad a dywedodd iddi gael amser bendigedig yno, er bod rhai amserodd trist wrth gofio am y bomio yno yn ystod yr ail ryfel byd. Diolchwyd iddi am sgwrs ddifyr dros ben gan Shirley Ellis. Diweddwyd gyda phaned dan ofal Dilys Jones, Bron Phillp ac enillwyd gwobrau y raffl gan Mem Owen a Shirley Ellis.Hwn oedd cyfarfod olaf y tymor. Bydd y tymor nesaf yn dechrau ar nos Lun, 5 Medi pryd y disgwylir Katy Webster o Mirsi, Botwnnog i sôn am ei chelf a chrefft.







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.