Merched y Wawr
AR 6 Ionawr cawsom noson hollol wahanol i’r arfer o dan y teitl ‘Ein doniau ni’.Llywydd y nos oedd Dorothy Lewis a fu’n cyflwyno 19 aelod yn eu tro.
Dymunodd Dorothy Flwyddyn Newydd Dda a balch oedd deall fod Sandra gartref o’r ysbyty a dymunwyd yn dda iddi.Cafwyd llawer o waith hyfryd gan yr aelodau, rhai yn dangos gwaith gwnïo pan oeddynt yn yr ysgol, gwaith croes pwyth gan lawer wedi ei fframio, lluniau teulu a hen gadair fach dderw wedi ei hail-wneud.Gwelwyd crys t yr enwog Stephen Jones a oedd yn ei wisgo yn y gêm.
Un aelod wedi cael llyfr y diweddar T Llew Jones pan yn yr ysgol gynradd, wedi ei lofnodi. Cafwyd hanes un aelod pan oedd yn yr ysgol uwchradd yn y tîm hoci a enillodd dros Gymru; arddangosfa coginio a phenillion doniol gan un arall. Noson llawn hwyl a diddorol iawn. Diolchwyd gan Eirlys Humphries.Rhoddodd Dorothy hefyd groeso i Elizabeth Evans, swyddog Ceredigion a Phenfro, cafwyd gair ymhellach gan Elizabeth. Hefyd dywedodd fod sawl cwrs crefft i ddod yn 2016.Cydymdeimlwyd ag Olwen a Tegwen Jones ym marwolaeth eu tad-yng-nghy-fraith, Alun Jones o’r Berth.Buom yn trafod y chwaraeon sydd yn dod yn fuan.Rydym wedi cael gwahoddiad gan gangen Llwynpiod i neuadd Llangeitho i’w Cawl Gwyl Ddewi ar 3 Mawrth a bydd ein cael ni yn Bronant ar 2 Mawrth. Ein gwraig wadd fydd Sian Lewis, Llanilar.Tro nesaf, ar 3 Chwefror, bydd Mere-rid Jones yn sôn am ailgylchu.





.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.