Merched y WawrER bod tymor y gangen wedi gorffen tan fis Medi, cawsom noson arbennig wrth anrhydeddu Sandra Morris Jones gyda swper ar 18 Mehefin. Bydd yn cael ei hurddo yn Llywydd Cenedlaethol y Mudiad yn Eisteddfod Gened-laethol Sir Fynwy a’r Cyffiniau ym mis Awst; anrhydedd fawr a’r cyntaf erioed o gangen Bronant.Cychwynnwyd yn gynnar am Dregaron a bu rhai yn Oriel Rhian-non yn gweld gwaith yr arlunydd Wynne Melville Jones, roedd sawl llun o’r ardal yno. Wedyn, teithi-odd y bws i gyfeiriad Llambed a chyrraedd ‘Cegin Gareth’. Cafwyd gwledd o bump cwrs wedi ei weini yn artistig iawn, gwledd i’r llygaid a chroeso arben-nig gan Gareth.Cafwyd gair o groeso gan ein llywydd Anne Gwynne, yn sôn am ein balchder o Sandra ac yn dymuno’n dda iddi yn y ddwy flynedd nesaf ac ar ran y gangen cyflwynodd Anne gloc mewn llechen Gymreig iddi. Diolchodd hithau am y swper ardderchog, yr anrheg ac i’r gangen am bob dymuniad da.Llongyfarchwyd Enid a Jacque-line am ddod yn gyntaf yn y domi-nos yn yr Wyl Haf; i Aeronwen am ddod yn gyntaf a thrydydd dros Gymru am wneud pice ar y maen ar ffurf calonnau; ac i Dorothy am ennill cwpan adran y coginio yn Sioe Aberystwyth.Dymunwn wellhad buan i Tegwen Jones wedi ei llawdriniaeth yn Ysbyty Glangwili a llongyfarch-wyd Sandra ar enedigaeth wyr, ail fachgen bach i Heledd a Meic yng Nghaerdydd o’r enw Samuel Dewi a brawd bach i Will ac i deulu Cwmcoy ar enedigaeth wyres a nith, merch fach o’r enw Hana Ann i Emma ac Eifion, yn Bethania.Diolchodd Anne i Gareth am y bwyd hyfryd, i Mary ei fodryb am helpu gyda’r gweini, i Dorian gyr-rwr y bws ac i Tim Jones, Llambed am dynnu llun. Aeth pawb adref yn hapus wedi noson ardderchog. Edrychwn ymlaen yn awr at fynd i’r Eisteddfod Genedlaethol a chymryd rhan yn y cyflwyniad i Sandra ar y dydd Mercher.
Bronant






.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.