AM yr ail waith yn hanes y bragdy ifanc o Lyn, mae llond fan o boteli Cochyn a Glyndwr a’u brandiau eraill ar ei ffordd i gyfanwerthwr cwrw yn Auxerre yn Ffrainc.

Aeth y llwyth cyntaf yno ar gyfer twrnament pêl-droed yr Euros y llynedd ac mae’r ail lwyth ar ei ffordd ar gyfer penwythnos mawr gêm rygbi Cymru/Ffrainc ganol Mawrth eleni.

“Yn ogystal â dros 1,000 o boteli, mi fyddwn yn mynd â chasgenni bach o gwrw Crys Coch efo ni ar gyfer tair noson sydd wedi’u trefnu yn yr ardal,” meddai Iwan ap Llyfnwy, rheolwr y bragdy.

“Mae’r cerddor Gwilym Bowen Rhys yn dod efo ni yn y fan ac mi fydd yn perfformio mewn clwb rygbi ac yn stordy bar y cwmni gwerthu. Mi fydd y brand Cymreig yn gryf iawn felly – rygbi, canu Cymraeg a chwrw Cymreig.

“Mae’r Ffrancwyr wrth eu bodd efo’r Ddraig Goch ac maen nhw wedi cymryd at flas a straeon ein cwrw ni yn arw iawn hefyd.”

Mae Cwrw Llyn eisoes wedi adeiladu nifer o bontydd gyda chriwiau o Ewrop drwy fod eu ffilm gyflwyno yng nghanolfan ymwelwyr y bragdy ar gael mewn dewis o saith o ieithoedd y cyfandir.

“Mi ddaeth llond bws o wlad y Basg yno yn ddiweddar ac roedd y fenter gymdeithasol, leol yma sydd eto’n agor y drws yn rhyngwladol yn eu plesio yn fawr,” meddai Myrddin ap Dafydd, un o’r cyfarwyddwyr.

Am yr holl erthygl, gwelwch yr Cambrian News wythnos yma, yn siopiau ar dydd Iau