Yr wythnos ddiwethaf derbyniodd aelodau pwyllgor Eisteddfod Gadeiriol Chwilog gadair yr eisteddfod, oedd wedi ei dylunio a’i chrefftio gan John Tolitt, un o bentrefwyr Chwilog.
Mae’r pwyllgor yn hynod ddiolchgar i Mr Tolitt sydd wedi cyflwyno cadair i’r eisteddfod ym mhentref Chwilog ers blynyddoedd maith bellach.
Mae’r pwyllgor wedi bod yn gweithio’n galed ers misoedd bellach, yn trefnu ac yn paratoi tuag at yr eisteddfod a gynhelir yn Neuadd Coffa Chwilog, prynhawn a nos Sadwrn, 18 Ionawr sef dydd Sadwrn yma.
Y beirniaid eleni fydd Robat Arwyn, Ruthun (cerdd a cherdd dant); Eleri Richards, Penrhosgarnedd (llefaru); Prifardd Gruffudd Eifion Owen, Caerdydd (barddoniaeth a llenyddiaeth); a Bethan Llwyd, Chwilog (arlunio).
Catrin Alwen Jones, Chwilog fydd yn cyfeilio yn y prynhawn a Dafydd Lloyd Jones, Bae Colwyn gyda’r hwyr.
Harri Lloyd, Waunfawr, Aberystwyth fydd llywydd yr eisteddfod eleni ac yn ac yn arwain yn y prynhawn fydd Leila Griffiths, Delyth W Davies a Rhian Roberts, gydag E Rhian Williams a Linda E Williams yn yr hwyr.
Bydd cyfarfod y prynhawn yn cychwyn yn brydlon am 12.30yp a chyfarfod yr hwyr am 6yh.






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.