Cynhaliwyd Eisteddfod Gadeiriol Llanegryn yn Neuadd Egryn, ddydd Sadwrn, 17 Chwefror.

Bwriad y pwyllgor eleni oedd treialu’r eisteddfod ar ei newydd wedd sef un cyfarfod yn cychwyn 1yp gyda chystadlaethau ar gyfer cystadleuwyr o dan yr oedran 25 yn unig. Braf yw nodi ei bod wedi bod yn llwyddiant!

Y beirniaid eleni oedd: Cerdd, Cerdd Dant ac Alaw Werin - Nia Morgan, Bala. Llefaru a Llenyddiaeth (Dan 25 oed ac Agored) - Aled Lewis Evans, Wrecsam. Llenyddiaeth Cynradd – Sian Jarman, Cil-dydd, Tal-y-llyn. Gwaith Celf - Delyth Thompson, Abergynolwyn.

Cafodd y gwaith celf a’r llenyddiaeth eu harddangos yn y neuadd fel yr arfer. Cyflwynwyd gwobr er cof am Elain Heledd i’r perfformiad llwyfan gorau ac i’r eitem gelf orau yn y Cyfnod Sylfaen.

Diolch i Ysgol Craig Y Deryn am eu cefnogaeth yn yr adran gwaith llaw ac yn y cystadlaethau llwyfan ac i Goleg Meirion Dwyfor am eu cefnogaeth gyda’r gwaith llenyddol.

Tudur P Jones, Tywyn oedd yn cyfeilio yn ôl yr arfer, a’r arweinyddion oedd Eurgain Haf Davies ac Edward Jones. Diolch iddynt oll am eu gwaith trylwyr.

Braf oedd croesawu Rachel Mumford, Bryncrug atom i Lanegryn fel Llywydd yr Eisteddfod eleni. Merch o’r pentref yw Rachel a fynychodd yr Ysgol Gynradd yma yn Llanegryn. Bellach mae’n athrawes wyddoniaeth yn Ysgol Uwchradd Tywyn ac yn byw ym Mryncrug.

Cafwyd araith ddiddorol iawn ganddi yn olrhain ei phrofiadau’n cymryd rhan mewn eisteddfodau’r fro. Fe gyfeiriodd mai braf oedd gweld wynebau hen a newydd yn y gynulleidfa a diolchodd i rieni ac athrawon Craig y Deryn am annog eu plant i gystadlu. Nododd mai profiad gwerthfawr yw cael bod ar lwyfan eisteddfod o’r fath.

Roeddem yn falch o glywed Aled Lewis Evans yn traddodi fod teilyngdod yng nghystadleuaeth y gadair, sef Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 100 llinell, ar y testun ‘Yma o Hyd’. Gaenor Mai Jones, yn wreiddiol o Aberystwyth, ond bellach yn byw ger Pont y Pridd fu’n llwyddiannus. Gwaith cerddorol Karl Jenkin sef ‘The Armed Man’ a’i hysbrydolodd i ysgrifennu’r gerdd.

Roedd eisoes wedi ennill cadair yn yr Eisteddfod hon ym 2018 a diolchwyd iddi am gystadlu yn flynyddol.

Eleni derbyniodd gadair fechan o dderw wedi ei gwneud gan Dan Collister, Ysgol Llanegryn, Llanegryn.

Diolch yn fawr iawn i ‘Milfeddygon Williams, Tywyn’ am noddi cystadleuaeth y Gadair. Sam Robinson ddaeth yn ail a Megan Richards yn drydydd. Diolch hefyd i Mererid Morris am ganu cân y cadeirio mor swynol.

Canlyniadau Llwyfan

  • Unawd meithrin a derbyn:1. Silyn Ifan Breese 2. Aron Jones 3. Mabon Glyndwr Jones
  • Llefaru meithrin a derbyn:1. Silyn Ifan Breese 2. Aron Jones
  • Unawd Bl 2 ac iau: 1. Curig Breese 2. Gwenno Evans 3. Hywel Griffiths
  • Llefaru Bl 2 ac iau: 1. Curig Breese 2. Gwenno Evans 3. Efa Mahala
  • Unawd Cerdd Dant Bl 2 ac iau: 1. Efa Mahala
  • Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Perfformiad Llwyfan Gorau: Curig Breese
  • Gwobr Goffa er côf am Elain Heledd am y Gwaith Celf Gorau: Silyn Breese
  • Unawd Bl 3 a 4: 1. Anest Euros 2. Nansi Evans 3. Sarah Pugh 4. Isla Wilkes
  • Llefaru Bl 3 a 4: 1. Anest Euros 2. Nansi Evans 3. Evie Jones
  • Unawd Cerdd Dant Bl 3 a 4: 1. Anest Euros
  • Unawd Bl 5 a 6: 1. Jini Grug Dodson 2. Isla Jones 3. Hannah Mumford a Elsie Jones
  • Llefaru Bl 5 a 6: 1. Jini Grug Dobson 2. Lily Glenc 3. Sara Williams
  • Unawd Cerdd Dant Bl 5 a 6: 1. Jini Grug Dobson
  • Unawd Alaw Werin Bl 6 ac iau: 1. Jini Grug Dobson 2. Anest Euros 3. Curig Breese a Nansi Evans 4. Silyn Breese
  • Parti Llefaru Bl9 ac iau: Ysgol Craig Y Deryn
  • Parti Unsain neu Deulais Bl 9 ac iau: Ysgol Craig Y Deryn
  • Deuawd Bl 9 ac iau: 1. Lily Glenc a Hannah Mumford
  • Unawd Piano / Bl 9 ac iau: 1. Hywyn Euros 2. Anest Euros 3. Gwilym Egryn Jones
  • Llefaru Bl 7-9: 1. Gwilym Egryn Jones
  • Unawd offerynnol dan 18 oed: 1. Lea Mererid Roberts 2. Aneira Fflur Jones
  • Llefaru dan 18 oed: 1. Lea Mererid Roberts 2. Erin Llwyd Jones
  • Unawd Piano dan 18 oed: 1. Lea Mererid Roberts 2. Aneira Fflur Jones
  • Unawd Cerdd Dant dan 25 oed: 1. Erin Llwyd Jones 2. Lwsi Roberts
  • Llefaru dan 25 oed: 1. Erin Llwyd Jones
  • Unawd dan 25 oed: 1. Lwsi Roberts
  • Cân Werin dan 25 oed: 1. Lwsi Roberts
  • Canu Emyn dan 25 oed: 1. Lwsi Roberts
  • Unawd o Sioe Gerdd dan 25 oed: 1. Lwsi Roberts 2. Erin Llwyd Jones

Canlyniadau Llenyddiaeth

  • Meithrin: 1. Olivia Perks 2. Tove McCarter-Stockton 3. Thomas Jewell
  • Derbyn: 1. Silyn Breese 2. Alice Lewis 3. Bella Fox
  • Bl 1 a 2: 1. Rosie Pugh 2. Owen Moss 3. Robyn Hughes
  • Bl 3 a 4: 1. Isabella Turnis Heap 2. Rosie Watterson 3. Gwilym Evans
  • Bl 5 a 6: 1. Catrin Pierce 2. Poppy Collister 3. Nia Hobbs
  • Dan 25 oed: Darn o farddoniaeth neu ryddiaith ar unrhyw ffurf hyd at 2,000 o eiriau: 17 o bobl ifanc Gwynedd wedi dangos eu doniau ysgrifennu mor amrywiol eto eleni 1. Elin Mair Jones 2. Angharad Sophia Thomas 3. Beca Llwyd Lewis Jones a Alaw Roberts
  • Cyfieithu - Detholiad o Erthygl yn y Guardian gan Sandra Laville “Reservoir of Pain - Plan to divert Welsh Water to London reopens old wounds” 1. Trefor Huw Jones 2. Llifon Jones 3. Aled Wyn Williams a Bethan Davies
  • Parodi ar ‘Aberdaron’, Cynan: 1. Bethan Davies 2. Olwen Griffiths ac Eurgain Owen 3. Olwen Griffiths, Eurgain Owen a Bethan Davies
  • Brawddeg o’r gair ‘Glanmorfa’: 1. Eurgain Owen
  • Erthygl ar gyfer Papur Bro 1. Avril Micah
  • Cystadleuaeth i’r dysgwyr - “Fy ardal i” 1. Veronica Savage

Canlyniadau Celf – Thema Egni

  • Meithrin: 1. Mabon Glyndwr Jones 2. Dorothy Tucker 3. Tove McCarter-Stockton
  • Derbyn: 1. Silyn Breese 2. Freya Hooper 3. Maverick Betts
  • Bl 1 a 2: 1. Cynan Richard Jones 2. Barnaby Gardner 3. Robyne Coles
  • BL 3 a 4: 1. Isabella Turnis Heap 2. Beth Jones 3. Bleddyn Jones
  • Bl 5 a 6: 1. Jack Pugh 2. Maisy Davies 3. Sam Thorpe