Ar ddydd Sadwrn, 29 Gorffennaf, cynhalwyd treialon cŵn defaid New Cross a’r Cylch ar gae Brenan, trwy ganiatad caredig Alwyn a’r teulu.

Benthycwyd hefyd cyflewnad cyson o ddefaid trwy garedigrwydd y teulu, a chafwyd ddiwrnod hyfryd a heulog o gystadlu brŵd, gyda oddeutu 110 o rediadau yn ystod y dydd.

Y beirniad eleni oedd John Henry Jones, Bont Goch, a dyfarnodd y gwobrwyon fel a ganlyn.

Dull Cenedlaethol Agored: Y wobr gyntaf sef tarian her E J O Evans, llechen treialon gan Ffion George a £25 yn cael ei ennill gan John Wheaton, Port Talbot, gyda’i gi Kate.

Rhoddwyd yr ail wobr i Dewi Jenkins gyda Meg a rhannwyd y drydedd a’r bedwaredd rhwng Eirian Morgan gyda Fly a Bleddyn Leicester gyda Gill.

Dull De Cymru Agored: Y wobr gyntaf o £25 a llechen treialon eto gan Ffion George yn cael ei ennill gan Irwel Evans, Ystrad Meurig gyda Jet.

Rhannwyd yr ail a’r drydedd wobr rhwng Eirian Morgan gyda Fly, a Irwel Evans gyda Mac.

Dull Cenedlaethol Nofis: Y wobr gyntaf yn cael ei ennill gan John Wheaton gyda’i gi Kate.

Rhoddwyd yr ail wobr i John Davies gyda Bonnie, a’r trydydd i Alun Edwards gyda Smudge.

Dull De Cymru Nofis: Y wobr gyntaf yn cael ei ennill gan Irwel Evans gyda Jet. Rhoddwyd yr ail wobr i Martha Morgan, Tregaron gyda Jano a’r trydydd i Lisa Hansen gyda Nyx.

Diolchodd y trysorydd, Hugh Lewis a’r ysgrifennydd, John George i deulu Brenan am gael benthyg y cae a’r defaid ac i bawb am wneud y diwrnod yn un llwyddiannus eleni eto, cyn cyhoeddi’r canlyniadau.

Diolchwyd hefyd i Tom Lewis a Lewis Hamer am fod yn gyfrifol am ollwng y defaid allan o’r lloc gwaelod trwy gydol y dydd.