Mae’r awdur adnabyddus Caryl Lewis a’r arlunydd poblogaidd Valériane Leblond wedi cydweithio unwaith eto a chreu cyfrol hardd arall yn arbennig i’r Nadolig.

Mae Mari a Mrs Cloch (Y Lolfa) yn ein hatgoffa o bwysigrwydd y Nadolig – i ddangos caredigrwydd ac wrth gwrs i fwynhau hapusrwydd yr ŵyl a’i hud.

Dywedodd Caryl ei bod yn “gyffro i gyd wrth feddwl am rannu’r gyfrol arbennigyma gyda phlant bach y Nadolig yma”.

Cafodd yr awdures ei hysbrydoli gan ei mam gan iddi hithau gasglu addurniadau Nadolig o bedwar ban byd – cofiai Caryl ryfeddu atynt ar y goeden bob blwyddyn.

Yn coroni’r stori arbennig hon, mae lluniau cynnes a chlyfar Valériane.

Dywedodd hithau: “Mae yno naws tragwyddol i’r geiriau a oedd yn hyfryd i ddarlunio. Mae’n wych hefyd bod y prif gymeriadau yn ferched ond bydd y stori yn apelio at unrhyw un."

Mae Mari a Mrs Cloch yn stori sydd yn dal naws y Nadolig i’r dim gyda stori hudolus a lluniau lliwgar.

Mae Mari’n mynd â mins-peis at Mrs Cloch drws nesaf ar Noswyl Nadolig – hen ddynes fach unig, nad oes neb yn galw i’w gweld.

Mae Mari yn ei helpu i addurno’r goeden ag addurniadau anghyffredin o bob rhan o’r byd, ac mae ymwelydd annisgwyl iawn yn galw yn y tŷ!

Mae Caryl a Valériane eisoes wedi cydweithio ar y cyfrolau Sgleinio’r Lleuad (2015) a Merch y Mêl (2017) a’r ddwy wedi ennill gwobrau am eu gwaith.

Mae Mari a Mrs Cloch gan Caryl Lewis ar gael nawr.Lansiwyd Mari a Mrs Cloch yn Ysgol Gymraeg Aberystwyth ar ddydd Iau, 30 Tachwedd.

Mae Caryl yn dod o Ddihewyd ger Aberaeron yn wreiddiol.

Mae Valériane yn arlunydd sy’n enedigol o Angers, Ffrainc, sy’n byw yng Nghymru ers 2007.

Mae ganddi bedwar mab ac un gath o’r enw Tebot. Mae hi’n byw yn Aberystwyth ac wrth ei bodd yn darlunio a phaentio. Mae hi wedi ennill gwobr Tir na n-Og dair gwaith.