CYNHALIWYD Diwrnod Chwaraeon CFfI Cymru yn Aberystwyth ar ddydd Sul, 25 Mehefin.
Daeth aelodau o bob cwr o Gymru ynghyd i gymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon.
Yn ystod y dydd, cystadlodd timoedd gyda dros 200 o aelodau yn cynrychioli clybiau ledled Cymru, mewn rownderi, pêl-droed pump-bob-ochr a phêl-rwyd.
Daeth Ceredigion i’r brig yn y gystadleuaeth pêl-droed a merched Meirionnydd wnaeth ennill y bêl-rwyd ac ar ôl gystadleuaeth agos yn y rownderi, daeth Maeyfed i’r brig yn cipio’r wobr gyntaf.
Dywed Katie Davies, cadeirydd cystadlaethau CFfI Cymru: "Roedd o’n bleser gweld cymaint o aelodau yn cystadlu ac yn mwynhau eu hunain yn y dair gystadleuaeth eleni yn Aberystwyth. Llongyfarchiadau mawr i bawb a wnaeth cymryd rhan ac yn enwedig i’r rhai a ddaeth i’r brig. Pob lwc i’r timau a fydd yn cynrychioli Cymru yn y rowndiau terfynol cenedlaethol."
Canlyniadau: Pêl-droed: 1, Ceredigion; 2, Sir Benfro, 3, Eryri. Rownderi: 1, Maesyfed; 2, Maldwyn, 3, Ceredigion. Pêl-rwyd: 1, Meirionnydd; 2, Maldwyn; 3, Sir Benfro.
Cambrian News yr wythnos hon ar gael yn y siopau nawr