Mae Clwb Beicio ar ôl Ysgol, Ysgol Foel Gron, Mynytho wedi derbyn Grant Arloesedd Llywodraeth Cymru o £2,200.

Mae’r arian wedi ei wario ar chwe beic ac offer diogelwch.

Bydd y beics yn cael eu defnyddio am y tro cyntaf ar ôl gwyliau’r Pasg pan fydd y clwb beicio yn ail gychwyn ar ôl seibiant y gaeaf.

Wrth y llyw bydd y pennaeth mewn gofal Kelly Jones a Rosie Decker, un o’r rhieni.

Yn y llun gwelir tri o’r beics newydd gyda Kelly Jones, Ela Davies, 11, Jack Thomas, 10 ac Ellis Williams, 10.

See this week’s north editions, in shops and online now