CEIR cofio cyfraniad a phortreadu dynoliaeth merched yn hanes Cymru yr wythnos hon mewn digwyddiad arbennig.

Ar nos Fercher y 27ain o Ebrill am 7.30yh yng Ngwesty’r Eryrod yn Llanuwchllyn wnaeth dwy awdures ddathlu cyhoeddi eu cyfrolau newydd – ill dwy yn cofio neu yn clodfori merched yn hanes Cymru.

Dathlir cyhoeddi nofel newydd yr awdures Haf Llewelyn, Y Traeth, a chyfrol arbennig Beryl H Griffiths, Mamwlad, gan Wasg Carreg Gwalch.

Yn dilyn llwyddiant cyfres Mamwlad (Tinopolis) ar S4C, daw’r gyfrol Mamwlad gan Beryl H Griffiths i roi golwg fanylach i rai o ferched mwyaf dylanwadol Cymru - merched sydd wedi gwneud eu marc ar hanes Cymru ond nad ydynt, ym mhob achos, wedi cael y clod a’r sylw haeddiannol.

Mae’r gyfrol hon yn cyflwyno straeon hynod naw o’r merched hyn, a lwyddodd, yn erbyn disgwyliadau cymdeithas, i herio ffiniau a dilyn eu breuddwydion.

‘Pwrpas Mamwlad yw cofio, ac ysbrydoli. Os na wnawn ni roi’r hanesion yma ar gof a chadw nawr, sut ydyn ni’n mynd i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ferched Cymru?’ meddai Ffion Hague, sydd wedi cynnig y rhagair ar gyfer y gyfrol.

Olrheinir nifer o fywydau merched o Gymru yn y gyfrol gan gnynwys Betsi Cadwaladr, Gwen John a Grace Williams.

Lleolir Y Traeth gan Haf Llewelyn yn Sir Feirionydd yn ystod yr 17eg Ganrif, gan olrhain bywydau rhai o deuluoedd bonedd y cyfnod.

Dilyna hanes Margaret Cave wedi iddi briodi’r uchelwr Siôn Wynne o Wydir, pan nad oedd fawr hyn na phlentyn.

Er i Margaret geisio’i pherswadio ei hun ei bod hi’n perthyn. Ond mae’n gorfod dioddef dirmyg ei theulu yng nghyfraith ac yn cael pyliau wdys o iselder ac yn hiraethu am ei merch fach, ac am ei gwr sy’n treulio’i amser yn Llundain bell.

Gweld y rhifyn Meirionnydd yr wythnos hyn am y stori llawn