BLWYDDYN Newydd Dda i chi gyd
O hyn ymlaen, mai’n mynd i fod yn brysur iawn ar y plant, pobl ifanc, arweinyddion, hyfforddwyr, pwyllgorau cylch a beirniaid. Da ni yn cychwyn ar dymor yr Eisteddfodau! Yn sydyn iawn fydd y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yn ein cyrraedd. Cwta chwe wythnos sydd yna – 9 Chwefror yw’r dyddiad am eleni. Peidiwch â meddwl nai neud hyn fory. Mae’r safle cofrestru yn agored ers dros fis bellach ac yn awyddus i groesawu cystadleuwyr, coeliwch fi.Er mwyn rhoi cyfle i’ch plentyn, cofiwch gofrestru i gystadlu yn y Cylch gyntaf!
Da ni ond ym mis Ionawr, ond, mae yna 1,624 wedi ymaelodi yn y Rhanbarth yn barod. Balchder wrth weld cymaint o gefnogaeth i waith yr Urdd ar draws yr oedran.
Mae gwaith yr Urdd yn cynnwys Adrannau ac Aelwydydd cyson a theithiau i lefydd fel Alton Towers, Disneyland Paris, Gwersylloedd Glanllyn a Chaerdydd, Stadiwm Dinas Caerdydd, Glannau Dyfrdwy i sglefrio, a sgïo i Landudno. Llu o brofiadau i blant a phobl ifanc er mwyn eu gwneud yn ddinasyddion cytbwys. Bydd y Fforwm Ieuenctid o dan gadeiryd-diaeth Dafydd Davies, Ysgol y Berwyn, yn trefnu gweithgareddau am y misoedd nesaf. Gwyliwch allan amdanynt.Pob lwc i aelodau’r Rhanbarth wrth gystadlu yn Genedlaethol – y nofwyr yng Nghaerdydd a’r Gymnastwyr yn Aberystwyth yn y mis nesaf.
A beth am y mis i ddod?20 Ionawr – Fforwm Ieuenctid – 6yh / Pwyllgor Rhanbarth – Ship Dolgellau – 7yh27 Ionawr – Pêl-rwyd Ysgolion – Canolfan Hamdden Abermaw – 5 yh2 Chwefror – Uwch-adran newydd Cylch Dolgellau – Canolfan Hamdden 7-9yh3 Chwefror – Pêl-rwyd Adrannau – Canolfan Hamdden Blaenau – 5yh4 Chwefror – 5-bob-ochr Ysgolion – Canolfan Hamdden Penllyn – 5yh8 Chwefror – 5-bob-ochr Adrannau – Canolfan Hamdden Tywyn – 5yh11 Chwefror – Taith i Sglefrio yn Glannau Dyfrdwy – Ysgolion Ardudwy ac y Moelwyn.
Tan tro nesa!





1.jpeg?width=209&height=140&crop=209:145,smart&quality=75)

Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.