THE latest community news from Pontrhydfendigaid.

Gwasanaethau

RHYDFENDIGAID (Presbyteriaid), dydd Sul, 2 Ebrill: 10yb, Parch Lewis Wyn Daniel (Oedfa Gymun); 11yb, Ysgol Sul. Carmel (Bedyddwyr), dydd Sul, 2 Ebrill: 2yp, Parch Andrew Lenny (Oedfa Gymun).

Services

STRATA Florida Churches (Church in Wales), Sunday, 2 April: 8.30am, Holy Communion at Dewi Sant Church.

Ffair Wanwyn

CYNHELIR Ffair Wanwyn Chwiorydd Rhydfendigaid fore Sadwrn, 8 Ebrill yn Festri Rhydfendigaid. Agorir am 10yb gan Huw Lloyd, Caerdydd (Henfynachlog gynt). Bydd stondin gacennau, stondion amrywiol a raffl ar gael, gyda’r pris mynediad yn £1.50 i oedolion a 50c i blant, yn cynnwys lluniaeth ysgafn.

Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen

BYDD Eisteddfodau Teulu James Pantyfedwen eleni yn cael eu cynnal ar benwythnos Gwyl Calan Mai, 28 Ebrill, hyd at 1 Mai, ym Mhafiliwn y Bont. Bydd y cystadlu ar y nos Wener yn cychwyn am 5yh, a dydd Sadwrn am 9.30yb. Nos Sadwrn, cynhelir ‘Sadwrn y Sêr’ gyda chystadlu ar Unawdau allan o Sioeau Cerdd, Opera Ysgafn neu Ffilm, a Chyflwyniad Dramatig, gyda Deiniol Wyn Rees a Lowri Steffan yn beirniadu.Bydd yna raglen amrywiol ar y dydd Sul, gan ddechrau gydag Oedfa Unedig yn Nghapel Rhyd-fendigaid am 10yb gyda Dafydd Iwan yn pregethu, a phlant yr Ysgol Sul yn ymuno ag ef i ganu dwy o’i ganeuon. Yn y prynhawn, am 1yp, ceir taith archeolegol o amgylch Abaty Ystrad Fflur yng nghwmni Rhys Mwyn, ac am 5.30yh, bydd Talwrn y Beirdd yr eisteddfodau yn cael ei gynnal ym mar y pafiliwn, gyda’r Prifardd Idris Reynolds fel Meuryn. Am 7.30yh nos Sul, bydd Cyng-erdd Merêd yn cael ei gynnal yn y pafiliwn, sef ail gyngerdd coffa’r diweddar Ddr Meredydd Evans, yng nghwmni Dai Jones, Llanilar, Côr Glanaethwy o dan arweiniad Cefyn a Rhian Roberts, Meinir Gwilym, Gwenan Gibbard, a’r grwp o fechgyn lleol sydd newydd ryddhau Cryno-ddisg, Bois y Fro. Rhywbeth at ddant pawb felly.Ac i gloi’r penwythnos, ar ddydd Llun, 1 Mai, bydd y cystadlu yn dechrau am 11yb.Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r ysgrifenyddion cyffredi-nol, Selwyn a Neli Jones ar 01974 831695 neu [email protected]

Noson Goffi

COFIWCH am Noson Goffi flynyd-dol y papur bro, Y Barcud, sydd yn cael ei chynnal eleni yn Neuadd Pantyfedwen am 7yh nos Wener, 31 Mawrth. Agorir y noson gan un o ‘Fois y Bont’, sef Gareth Huws, Y Mochyn Du, Caerdydd. Pris mynediad fydd £3, gyda phlant ysgol yn cael mynediad am ddim. Bydd stondin yn gwerthu cynnyrch cartref a raffl ar gael, a bydd cyfle i ail-ymaelodi â Chlwb Y Barcud, neu i ymaelodi o’r newydd wrth gwrs. Bydd elw’r noson yn mynd tuag gronfa Y Barcud.