THE latest community news from Aberdaron

Cymdeithas Rhieni

Daeth criw gweithgar Cymdeithas Rhieni Ysgol Crud y Werin, i fyny gyda syniad gwreiddiol, llawn hwyl ar sut i godi arian i’r ysgol yn ddiweddar.

Gyda chymorth perchnogion Gwesty’r T? Newydd ac yn arbennig cymorth Sharon Roberts fe drefnwyd noson Mecsican yn y gwesty.

Roedd nifer cyfyngedig o dicedi ar gael ac fe werthwyd rhain mewn dim o amser â phawb yn edrych ymlaen at noson arbennig.

Roedd pryd dau gwrs wedi ei baratoi a hefyd fe gafwyd cwis a gemau ar themau Mecsican, gyda photel o Tequila yn disgwyl un person gyda’r rhif lwcus ar ei diced.

Wrth ddod i mewn trwy’r drws ar y noson rhaid oedd i bawb gwisgo sombrero, sef het draddodiadol Mecsico.

Ar ddiwedd noson fendigedig a llawn hwyl roedd elw o £700 a bydd yn cael ei gyflwyno i’r ysgol neu i brynu rhywbeth iddynt yn y dyfodol agos.

Yn y llun gweler criw o’r rhai fu’n brysur yn trefnu’r noson, o’r chwith: Ceri Ann Williams, trysorydd y gymdeithas rieni; Iain Roberts, un o gyd berchnogion T? Newydd; Rhiannon Jones, cadeirydd y gymdeithas rieni; ac Einir Owen, ysgrifennydd

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]