THE latest community news from Aberdaron
Sefydliad y Merched
CYNHALIWYD y cyfarfod blynyddol mis Rhagfyr dan lywyddiaeth Margaret Lloyd Jones, Abererch a chadwodd pawb ei swydd.
Y gwraig wadd oedd Kim Atkinson, arlunwraig adnabyddus o Aberdaron.
Daeth a samplau o’i gwaith a dangosodd wahanol ffyrdd o brintio, roedd yn ymddangos yn syml ond effeithiol iawn. Diolch iddi am noson liwgar.
Yn ngwesty Nanhoron, Nefyn cawsom y swper Nadolig eleni â phawb wedi mwynhau.
Daeth Gwenda Williams a’i achordion i’n diddannu drwy ganu ambell i garol a chan.
Daeth yr hen ‘Sion’ o gwmpas i rhannu anrhegion a thynnwyd y rafflau.
Cafwyd noson gartrefol a hwyliog.
Cydymdeimlwn â Wenda Williams, Bryn a’i merch Eilwen yn eu profedigaeth ar golli mam a nain.
Yng nghyfarfod cyntaf y flwyddyn daeth Suzanne atom, gwraig hynod o fedrus.
Dangosodd ei gwaith cwiltio, crochet a gwnïo, a rhoddwyd waith cartref i’r aelodau i wneud clustog pinnau.
Diolch iddi am ddod i’n diddori.
Byddwn yn cyfarfod nesaf ar 4 Chwefror yn Becws Islyn am 6.30yh.
Womens Institute
THE group meets every first Monday of the month.
The branch is not far approaching its 100th year.
A warm welcome to new members.
They have a promising agenda with visits, treasure hunts and trips.
For further details contact Gwenda 01758 760356 or Carol 01758 760223.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.