THE latest community news from Aberdaron
Ras Ffordd a Ffridd
CYNHALIWYD Ras Ffordd a Ffridd eleni ar 31 Gorffennaf a chafwyd noson lwyddiannus arall, hon oedd y 36ain ras i’w chynnal a thorrwyd sawl record yn ogystal â’r mwyaf erioed o gystadleuwyr, sef 242 yn y gwahanol gatagorïau.
Roedd 95 yn rhedeg yn y ras fawr, 21 ras dan 16 oed, a 126 o blant dan 12 a 7 oed.
Ras Fawr (16 – 40 oed) 8 a 1/3 milltir: 1 Eden Potter; 1 (lleol) Aled Owen.
Dros 40 oed: 1 Dyfed Thomas.
Ras Merched: 1 Sian Williams.
Ras dan 16 oed (Bechgyn) 3 milltir: 1 Deio Williams.
Ras dan 16 oed (Merched): 1 Edan O’Dea.
Rasus Bechgyn a Merched dan 16 oed (Lleol): 1 Tristan Harrison (Ras y Bechgyn); 1 Elin Williams (Ras y Merched).
Dan 12 oed (Bechgyn): 1 Gethin Thomas Griffith.
Dan 12 oed (Merched): 1 Ela Fon Jones.
Rasus dan 12 oed Bechgyn a Merched Lleol: 1 Deio Hughes/Ela Fôn Jones; 2 Ethan Jones/Elain Owen; 3 Harry John Jones/Non Elis Williams.
Ras dan 7 oed (Bechgyn): 1 Elis Gwilym Williams.
Ras dan 7 oed (Merched): 1 Cati Jones. Y dyddiad pwysig i bawb at y flwyddyn nesa ydi 29 Gorffennaf, sef dyddiad Ras Ffordd a Ffridd Aberdaron yn 2020.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.