THE latest community news from Aberdaron

Sefydliad y Merched

ESTYNWYD croeso i’r aelodau ar ôl seibiant dros yr haf.

Cydymdeimlwyd â Carys Jones, Cyndyn a Catherine Jones, Ystohelig Bach yn eu profedigaethau.

Y gwraig wadd oedd Carol Vernau o Gegin Vernau, a dangoswyd i ni sut i arddurno cacen, gwaith oedd yn dod drosodd yn syml ag effeithiol i rywun mor broffesiynol â Carol.

Mwynhawyd darn o’r gacen gyda phaned wedi ei pharatoi gan Megan a Catherine Jones, Plas Coch ar y diwedd.

Disgwylir Caryl, Bryn Hyfryd i ddod atom i wneud cardiau cyfarchion yn y cyfarfod nesaf ar 7 Hydref.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]