THE latest community news from Aberdaron.
Cyngor Cymuned
BU cynrychiolaeth o’r cyngor mewn cyfarfod gyda Steffan Jones o Gyngor Gwynedd ar 29 Rhagfyr a bu trafodaeth bositif ynghylch materion gwastraff yn y pentref.
Yn dilyn cwyn am wastraff ailgylchu yn chwythu allan o’r lorïau casglu sbwriel, adroddodd Steffan Jones bod fflyd lorïau y Cyngor yn mynd i gael ei hadnewyddu o Chwefror ymlaen; mae’n disgwyl y bydd y sefyllfa yn gwella o ganlyniad. Nid yw yn rhagweld problem cael bin gwastraff mawr ar gyfer y bythynnod yn Y Rhiw.
Pennu praesept ar gyfer 2017-18: Cyflwynwyd adroddiad ar y rhagolygon cyllidol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ynghyd ag adroddiad ar wariant a derbyniadau y flwyddyn bresennol ynghyd â balansau cyfrifon y Cyngor.
Yn dilyn trafodaeth, penderfynwyd codi y praesept o £9,000 i £13,000 oherwydd rhagdybiaeth y bydd costau ychwanegol sylweddol yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf o ganlyniad i’r canlynol:
• Mae problemau’r cae chwarae wedi arwain at wariant sylweddol ar gostau peiriannydd a chyfreithiol eleni. Nid yw’r mater wedi ei ddatrys hyd yma, felly, rhaid rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd o wariant pellach ar adeiladu wal gynnal yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae’r cyngor yn bryderus bod y mater yma yn bwyta i mewn i arian sydd wrth gefn gan y cyngor.
• Bydd etholiadau’r cyngor yn mis Mai ac mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn i gynghorau cymuned gymryd i ystyriaeth y gall costau cynnal etholiad fod tua £1,250.
• Derbyniwyd llythyr gan Gyngor Gwynedd yn datgan y bydd cyfyngiad pellach yn y grant torri llwybrau eto eleni.
• Mae Cyngor Gwynedd wedi gofyn am gyfraniad gan y cyngor cymuned at gynnal toiled cyhoeddus Aberdaron ac mae’r cyngor wedi cysylltu â’r Grwp Twristiaeth i ofyn os y byddant yn fodlon cyfrannu tuag at y costau yma o £2,000, ond heb dderbyn ateb eto.
• Rhaid rhoi ystyriaeth i’r posibilrwydd y bydd Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r cyngor ariannu cais am Faner Las i draeth Aberdaron eto eleni.
Cynhelir y cyfarfod nesaf o’r cyngor cymuned yn Neuadd Rhoshirwaun nos Lun, 13 Chwefror.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.