THE latest community news from Abererch
Clwb y Berch
PRYNHAWN Iau, 20 Medi, treuliwyd orig ddifyr iawn a chartrefol yng nghwmni’r Archdderwydd Geraint Lloyd Owen.
Soniodd Mr Owen am ei fagwraeth yn Sarnau, Meirionnydd a’r cymeriadau fu yn ddylanwad arno ef a’i frawd, a’r modd y cyflwynwyd barddoni a chynganeddu iddynt.
Diolchwyd iddo gan Laura, mwynhawyd paned wedi ei arlwyo gan Catherine ac enillwyd y raffl gan Ken.
Bydd cyfarfod nesaf ar 18 Hydref, pryd y cynhaliwn ein gwasanaeth diolchgarwch.
Cofiwch ein trip blynyddol i Landudno ar 15 Tachwedd, bydd croeso i ffrindiau i ymuno â ni.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.