THE latest community news from Abergeirw
Cymdeithas Rhydygorlan
CYNHALIWYD y sosial nos Wener, 23 Mawrth, i gloi tymor y gaeaf a daeth criw da ynghyd yn falch bod y lluwchfeydd yr meirioli.
Roedd Margaret, Marian a Nesta wedi paratoi gwledd ardderchog i bawb.
Yna cafwyd sgwrs gan Gwynfor A Jones, Pantglas gynt, ond bellach yng Ngorllewin Sussex ar Vaughaniaid Nannau.
Soniodd am y goeden deulu a chyfnod y stadau mawrion gan ddisgrifio’r Plas a’r stâd yn Nannau yn arbennig, wedyn cawsom straeon hwyliog am gyfnod Gwynfor yn gweithio i’r Brigadier.
Atgoffwyd pawb y bydd y wibdaith flynyddol ar 5 Mai eleni ac angen i bawb archebu lle ar y bws ymlaen llaw, gyda Delyth Medi’n trefnu.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.