THE latest community news from Abersoch.

Merched y Wawr

ROEDD cryn waith cyhoeddi, y llon a’r lleddf, gan y llywydd, Ruth ab Ieuan, ar ddechrau tymor yr hydref.

Roedd yr ystafell gyfarfod yn lliwgar a diddorol, gan mai’r wraig wadd oedd Ffion Jones, Pistyll, a ddaeth â ffrwyth ei llafur, yn deganau meddal, dillad plant, tyweli deniadol ac ati i’w harddangos a’u gwerthu.

Yn ei ffordd gartrefol ac annwyl dywedodd fod ganddi, ers yn blentyn, ddiddordeb mawr mewn gwnïo a’i hawydd oedd defnyddio’i dawn i ennill bywoliaeth.

Trwy ddygnwch, sel a phenderfyniad mae’r ferch hon wedi agor siop, yn dwyn yr enw addas Pwyth Pistyll, ym Mhwllheli. Diolchwyd iddi gan Beti. Marnel ac Einir drefnodd y baned.Hwy

hefyd roddodd wobr y raffl a enillwyd gan Eirlys.

Oedfa

ARWEINIR y gwasanaeth yng Nghapel Bwlch, y Sul yma, 2 Hydref am 5yh gan Parch Olwen Williams, Tudweiliog.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]