THE latest community news from Abersoch.

Merched y Wawr

DATHLODD y gangen Wyl y Nadolig gyda chinio yng ngwesty Sant Tudwal. Dymunodd y llywydd yn dda i’r rhai fethodd ddod oherwydd gwaeledd ac anfonwyd cyfarchion atynt. Enillwyd y ddwy wobr raffl, rhoddedig gan Menna a Dori, gan Iorwen ac Yvonne Clowyd y noson yn amserol a chynnes gan y parti cydadrodd gymerodd ran yng Ngwasanaeth Nadolig y Rhanbarth yn Golan. “Goleuni” oedd thema’r farddoniaeth a chafodd yr aelodau eu hatgoffa o ystyr y Nadolig. Anna a’i ‘sgrifennocdd a diolchwyd iddi am ddefnyddio’i dawn. Diolchwyd hefyd i staff cyfeillgar y gwesty am bryd digonol a blasus ac i Gwenda am y trefniadau.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]