THE latest community news from Abersoch
Merched y Wawr
CYNHALIWYD gwasanaeth carolau Rhanbarth Dwyfor yng Nghapel Berea, Efailnewydd, brynhawn Sul, 3 Rhagfyr, a’r nos Fercher ganlynol, cyfeiriodd y llywydd, Iorwen Thomas, at y naws hyfryd a bendithiol yno.
Talodd sylw i gyfraniad Anna ar ran cangen Abersoch, sef darllen ei llythyr dychmygol oddi wrth Joseff at ei deulu, yn disgrifio’r daith i Fethlehem.
Roedd yn drawiadol.
Cyfeiriodd hefyd at yr hwyl a’r marciau clodwiw gafodd y pedwar tîm yn y Cwis Hwyl, er na chipiwyd y wobr.
Cafodd y Llyfr Lloffion, drefnwyd ac a ddyluniwyd yn hardd gan Margaret Roberts ac Yvonne, ganmoliaeth uchel a thystysgrif mewn cystadleuaeth arall.
Cydymdeimlodd â Joan ar golli ei chwaer Glenys, dymunwyd yn dda i Dori ac Osian, wyr Jean, fu yn yr ysbyty a June oedd ar fin mynd yno ac anfonwyd cofion at Alaw, nith Jean, fu’n bur wael.
Crybwyllodd y chwithdod ddaw o golli Dorcas a’i chyfraniad poblogaidd i’r “Llanw”.
Yna croesawodd y wraig wadd, Ella Roberts, o gwmni Oinc – Oink, Llithfaen, a chafwyd amser diddorol ac addysgiadol iawn yn ei chwmni.
Mentrodd hi a’i gwr ddechrau busnes magu moch yn 2007 a gyda dyfalbarhad, gwaith caled a sel tyfodd yn fusnes llwyddiannus.
Maent hefyd wedi ennill gwobrau lawer yn y Sioe Frenhinol wrth arddangos eu moch Cymreig.
Daeth ag amrywiaeth o selsig i’w profi, a phorc – blasus dros ben – a bu cryn werthiant ar y cynnyrch, a’r Nadolig yn agosau.
Gan i’r gangen wledda eisoes wrth ddathlu’r Aur, ni fydd cinio Nadolig eleni, felly mwynhawyd paned wrth y byrddau a minspeis blasus wnaed gan Mair Hughes.
Eirlys enilliodd y planhigyn hardd roddwyd gan Margaret R.
Diolchwyd gan Iola.
I gloi’r noson darllenodd Iorwen gyfarchion tymhorol Sandra Morris Jones, y llywydd Cenedlaethol, yn atgoffa pawb o arwyddocad yr Wyl a chanwyd y garol O deuwch, ffyddloniaid.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.