THE latest community news from Aberystwyth
Cymdeithas yr Aelwyd
DAETH hanner cyntaf tymor yr Aelwyd i ben nos Wener, 13 Rhagfyr, gyda gwasanaeth Nadolig o bum llith a charol a drefnwyd gan dair o’n aelodau, Delyth Evans, Menna Evans a Lona Jones.
Cyflwynwyd darlleniadau o’r Beibl a cherddi, a chanwyd y carolau i gyfeiliant Delyth Evans.
Yn gefndir i’r cyfan roedd lluniau a dynnwyd ar daith y trefnwyr i Israel ym mis Medi.
Cymerwyd rhan hefyd gan Eleri Davies, Delyth Fletcher, Bethan Jones, Gwynfor Jones a Hefin Jones.
I gloi’r cyfarfod gwnaed casgliad o £81 tuag at Bapur Sain Ceredigion ac yna cafodd pawb gyfle i fwynhau paned a danteithion Nadoligaidd.
Cylch Cinio
MAE dydd Gwener, y 13eg, yn ddyddiad amheus i bobol ofergoelus ond roedd 13 Tachwedd eleni yn noson hwyliog iawn yng Nghylch Cinio Aberystwyth.
Daeth nifer fawr o’r aelodau ynghyd i ddathlu’r Nadolig dros ginio twrci rhagorol yng Ngwesty’r Richmond.
Roedd yn braf hefyd oedd cael cwmni Elwyn Jones, mab Hefin Jones, yn y cinio.
Mae Elwyn wedi ymgartrefi yn Oslo yn Norwy ers blynyddoedd bellach ac wedi sefydlu mentrau masnachol llwyddiannus yno.
Hyfryd hefyd oedd cael estyn croeso nôl i Roy James, Llanilar sydd wedi ail-gydio yn ei aelodaeth o’r Cylch wedi cyfnod o gymryd gofal teuluol.
Cyfeiriodd y cadeirydd, Sion Griffiths, at Dr Richard Edwards a John Ces Jones y ddau yn derbyn gofal meddygol ar hyn o bryd ac roedd yn braf eu gweld nhw gyda ni yn y cinio.
Llongyfarchwyd Robert Pugh, Bow Street ar ddod yn ddadcu.
Y g?r gwadd am y noson oedd Illtyd Griffith, Glandyfi.
Mae Illtyd yn adnabyddus iawn yn lleol fel cyn-ddeintydd yn Aberystwyth ond mae’n adnabyddus ymhell y tu hwnt i Gymru fel hyfforddwr pysgota.
Mae’n gyn-gapten ar dîm pysgota Cymru. Ei brofiadau yn pysgota ar draws y byd oedd thema ei sgwrs i ni, ond roedd ei gyflwyniad yn llawer iawn mwy na physgota.
Diolchwyd iddo gan Wynne Melville Jones, Llanfihangel Genau’r Glyn.
Derbyniwyd llythyr o ddiolch gan gôr Meibion y Mynydd yn sgil cefnogaeth ariannol y Cylch tuag at y Barbeciw a’r Cyngerdd a drefnwyd ganddynt ym Mhontarfynach yn ystod yr haf i gefnogi Uned Cemotherapi Bronglais.
Cyhoeddodd y cadeirydd y bydd y cyfarfod nesaf ar 10 Ionawr, a hynny yng nghwmni’r newyddiadurwr, sylwebydd a’r bardd disglair o Lanwnnen, Dylan Iorwerth.
Gwerin Aber Folk
GWERIN Aber Folk entertained at Aberystwyth Winterland on Christmas Eve.
The mainstay of the afternoon was Mandy and Daniel (otherwise known as Brenig) augmented by Jon Bell.
While much of the music had a festive theme, various well-known traditional folk tunes and songs were also performed along with original songs written by the performers.
Other regular Gwerin Aber Folk members also supported some numbers.
While the club plans to have a break from the normal folk and roots evenings for January, many members are looking forward to the concert at Aberystwyth Museum by Winter Wilson on Friday, 24 January.
On Wednesday, 5 February, they have the first of the regular folk and roots evenings of 2020 at the museum, starting at 7.30pm - entrance free (doors open 7pm). All are welcome whether as audience or as performers.
More details can be found at www.facebook. com/groups/GwerinAberFolk
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.