THE latest community news from Aberystwyth.
Welsh Hearts
ON Wednesday, 29 March, a tea party was held at Caffi Pen Dinas, The National Library of Wales, to raise money for Welsh Hearts. A keen supporter of the charity is local man Glan Davies.
He said: “On behalf of the charity, I want to thank the staff at The National Library of Wales. It is so nice to receive the support of a national institutions to a charity which is also of national importance.
“The contribution made following the tea party at Caffi Pen Dinas contributes to our goal of raising funds in Wales to be spent in Wales, for the benefit of the local community.
“The charity wants to continue their work of educating communities and the profit from this event will contribute towards achieving this.”
Cylch Cinio
JOHN Jones, tafarnwr Tafarn y Talardd yn Llanllwni, oedd ein gwr gwadd yn ein cyfarfod ar nos Wener, 7 Ebrill, yng Ngwesty’r Richmond. Mae John yn adnabyddus yn yr ardal fel gwr busnes, clocsiwr a chwmnïwr da. Cawsom ddôs arbennig o dda o hiwmor unigryw John.
Mae ei wreiddiau ym mhentre glofaol Senghennydd yn y de ddwyrain ac mae stamp yr ardal honno yn drwm ar ei bersonoliaeth heddiw. Rhoddodd bictiwr i ni o fywyd caled y pwll glo a’r straen a’r ofn cyson oedd ar deuluoedd y glowyr yn byw dan gwmwl llwch y glo.
Yn ystod ei blentyndod gwelodd agwedd wahanol o Gymru wrth iddo dreulio cyfnod yn Sir Fôn. Yno y daeth John ar draws yr iaith Gymraeg a sylweddoli nad oedd plant yr Ynys wedi dod ar draws Cymro di-Gymraeg yn y cyfnod hwnnw. Sais, iddyn nhw, oedd pob un na fedrai siarad yr iaith ac fe wnaeth hyn arwain John i stafell y prifathro i gael ei gosbi am iddo glatsho un o’i gyd-ddisbyblion am ei alw yn hynny.
Stori arall oedd ymgais John i ymdopi yn ddiweddarach gydag acenion gyddfol Cymraeg gorllewin Cymru. Erbyn hyn wrth gwrs mae John wedi gwneud ei farc yn y bywyd Cymraeg.
Er iddo dreulio cyfnod yn cael ei hyfforddi i fod yn athro yng Ngholeg y Drindod Caerfyrddin, ac i hynny fod yn drobwynt yn hanes twf ei Gymreictod, entrepreneriaeth oedd ei ddiddordeb pennaf. Bu John yn berchennog Cwmni Cyfieithu Trosol am nifer o flynyddoedd, yn rhedeg ffatri fwyd yn Nhregaron, yn rhan o gwmni Telynau Teifi ac yn dafarnwr yn Nghenarth.
Erbyn hyn mae wedi troi y cylch llawn ac mae nôl yn dafarnwr yn Nyffryn Teifi. Mae ei agwedd radlon a’i bersonoliaeth gymdeithasol yn ei wneud yn berson delfrydol ar gyfer y gwaith.
Diolchwyd iddo gan Phil Davies, Talybont, a ddaeth i nabod John yn ystod ei gyfnod yn Llandysul. Enillydd y raffl oed Tegwyn Lewis, Rhosgoch. Bydd y cyfarfod nesaf yn y clwb rygbi ar nos Wener, 12 Mai.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]