THE latest community news from Aberystwyth

Cylch Cinio

Daeth blwyddyn lwyddiannus i ben yn hanes Cylch Cinio Aberystwyth yng nghlwb y Quins, Caerfyrddin ar nos Wener, 14 Gorffennaf 14 yng nghwmni y Parch Dorrien Davies, Tyddewi.

Wrth gyflwyno’r gwr gwadd, cyfeiriodd y cadeirydd Tudor Jones bod y siaradwr newydd gael ei ddyrchafu yn Ddeon Gwlad Sir Gâr a dymunwyd yn dda iddo yn ei swydd newydd.

Yn ei anerchiad cafwyd stribed o straeon doniol iawn am ei brofiadau fel offeiriad, a llawer o’r straeon yn deillio o’i gyfnod yn ficer yn Nyffryn Aeron. Diolchwyd iddo gan Gwynfor Williams a gyfeiriodd ato fel personoliaeth lawn ac yn ogystal â’i hiwmor a’i ddoniolwch bod yna ochr sensitif a thyner iawn i’w bersonoliaeth.

Cynhaliwyd y cyfarfod blynyddol yn ystod y noson a derbyniwyd adroddiad ariannol manwl gan y trysorydd Dicky Wyn Davies.

Cytunwyd eleni eto i gyfrannu £100 yr un i’r pedwar papur bro yn yr ardal, sef Yr Angor, Y Tincer, Papur Pawb a’r Ddolen.

Cyflwynwyd cais am gefnogaeth i Megan Meredith o Aberystwyth sydd allan yn Tanzania yn cael profiad o weithio mewn sefyllfa anodd fel ffysiotherapydd mewn ysbyty yn ninas fwya’r wlad Dar es Salaam a chytunwyd i gyfrannu £100 at ei chostau.

Darllenwyd llythyr oddi wrth HAHAV – Gwirfoddolwyr Hosbis yn y Cartref Aberystwyth yn gofyn am gefnogaeth y Cylch Cinio a phenderfynwyd cyfrannu £100 at yr achos da.

Cadarnhawyd mai John Davies, Betws, yw cadeirydd newydd y cylch ac fe ail-apwyntiwyd yr ysgrifennydd, trysorydd a swyddogion y wasg. Etholwyd y Dr Richard Edwards yn is-gadeirydd.

Diolchwyd i Tudor Jones am arwain yn llwyddiannus yn ystod y flwyddyn, i’r trysorydd am ei waith manwl, ac i’r ysgrifennydd Huw Williams am drefnu’r cyfarfodydd misol.

Cadarnhawyd bod cynnig y clwb wedi ei dderbyn i gyflwyno’r Gadair i’r Eisteddfod Genedlaethol, os, a phan y daw’r brifwyl i Geredigion.

Trafodwyd hefyd y byddai’n ddymunol i ystyried achlysur nodedig yn ystod y flwyddyn gan wahodd pawb sydd wedi bod yn aelodau o’r Cylch Cinio dros y blynyddoedd ynghyd i ginio arbennig i ddathlu hirhoedledd y Cylch Cinio. Penodwyd panel bychan i ystyried ymarferoldeb y syniad. Awgrymwyd hefyd bod yna ddymuniad i gynnal noson ar y cyd gyda Chylch Cinio Caerfyrddin.

Bydd y cyfarfod cyntaf o’r flwyddyn newydd yn cael ei gynnal ar 8 Medi gyda croeso cynnes i aelodau hen a newydd.

Rotary Club

THIS week’s speakers were Rachel Rahman and Hanna Dee of the university’s Departments of Psychology and Computer Science, who spoke of a joint research project they were undertaking evaluating the use of virtual reality in facilitating reminiscing and memories amongst vulnerable older adults.

It is widely accepted that the act of reminiscing slows cognitive decline and improves well-being and quality of life amongst older people.

Virtual reality has become much more accessible in terms of cost and availability, using modern smart phones and head sets which can be as cheap as £3 for cardboard or £30 for more durable versions.

At this level they may become feasible for use in social care circumstances, for example, both in care homes and at home in the case of otherwise isolated individuals.

The increasing affordability and ease of use of 360 degree cameras adds to the potential of this development.

The joint project, still at the pilot stage, is intended to assess the likely benefits of using technology of this nature by trialling it with relatively healthy older people in order to assess the feasibility of a larger project involving vulnerable adults in a variety of individual circumstances. If it proved viable, it was intended to offer the technology at minimal cost to those involved in the care sector.

Rotarians were invited to consider volunteering for the pilot project which offers the potential for significant benefits for older people, and a number have already done so, eager to assist in such worthwhile research.

Aber Stroke Club

ON 16 August, 46 members of the club travelled by coach and car to Pencarreg Club in Llanrhystud for the monthly luncheon outing.

The chairman greeted all and said that two members were having birthdays so the ‘song’ was sung with gusto for the two ladies.

Jean and Judith organised the raffle and when all were seated, Ann, chairman, said grace.

A splendid carvery lunch was then enjoyed by all, and after the lovely sweets were served followed by tea and coffee, the raffle tickets were drawn and the table laden with amazing gifts was soon cleared.

The ever popular 765 club tokens were pulled from the bag and the cheques written for the lucky winners of the month.

Thanks was offered to the staff of Pencarreg for making the day out so enjoyable.

Audrey, social secretary, reminded anyone who wishes to come on the winter break in December to let her know.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]