THE latest community news from Bala
Gwnïo
CEIR gwledd i’r llygaid yn Neuadd Mynach y penwythnos nesaf.
Bydd y neuadd yn orlawn o waith llaw cywrain a lliwgar wedi eu creu gan ferched yr ardal.
Canolbwynt yr arddangosfa fydd y cwilt a wnaeth dosbarth gwnio Cwmtirmynach o dan arweiniad Mim Roberts.
Dechreuwyd arno fis Ionawr gyda pob aelod yn gwneud o leiaf un darn o glytwaith, y cwbl wedi eu gwnio â llaw.
Rhoddwyd y darnau gyda’i gilydd, fis Awst, pob darn a’u lliwiau yn cyd-weddu.
Penderfynwyd codi arian at achos da drwy gynnal raffl gyda’r cwilt yn wobr.
Dewiswyd Cronfa Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd, Gogledd Cymru fel elusen i’w chefnogi. Gwyddom pa mor bwysig yw’r elusen yma yn ein hardal ni.
Cynhelir yr arddangosfa ar ddydd Sadwrn a dydd Sul, 20 a 21 Hydref, rhwng 10yb a 4yp.
Bydd nifer o wobrau bychain ond tynnir raffl y cwilt am 3yp ar y dydd Sul (mae dal cyfle i brynu raffl gan aelodau’r dosbarth gwnïo neu yn siop Awen Meirion).
Dewch draw i Neuadd Mynach i weld gwaith llaw o eiddo Clybiau Gwnio Cwmtirmynach, Maesywaen sydd o dan arweiniad Medwen Charles a’r Parc sydd o dan arweiniad Gwyneth Jones, bydd phaned a chacen yn eich disgwyl.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.