THE latest community news from Bala.
Eisteddfod Ysgol y Berwyn
Ar 26 Hydref roedd hi’n garreg filltir yn hanes eisteddfodau Ysgol y Berwyn gan fod eleni’n nodi degawd o ymarferion egnïol a chystadlu tanbaid.
Dychwelodd dau at fwrdd y beirniaid – Bethan Smallwood oedd yn beriniadu’r cystadlaethau cerdd ac Alwyn Jones oedd wrth ei hochr i feirniadu’r llefaru a’r sgetsys.
Gwelwyd cystadlu o’r safon uchaf ar y cystadlaethau lleisiol ac nid tasg hawdd oedd penderfynu pwy a deilyngodd gwobr goffa Nia Pritchard Jones am yr unawd lleisiol gorau.
Tomos Griffithis o d? Lliw hawliodd y tlws eleni am ei ddehongliad cofiadwy o Iesu Yw.
Roedd y ddau feirniaid yn unfrydol mai eitem orau’r eisteddfod eleni oedd Huw Ifan pan roddodd ‘berfformiad ysgytwol’ o Hawl i Fyw.
Llwyddodd sawl unigolyn i gyfareddu’r gynulleidfa â’u doniau lleisiol neu offerynnol ond roedd digon o le i chwerthin yn ogystal gyda pherfformiadau comedïol yn y sgestys, meim cân a’r stori a sain.
Un o uchafbwyntiau’r prynhawn oedd seremoni anrhydeddu’r llenor h?n â chadair wedi’i dylunio gan Iolo Puw a’i noddi gan Awen Meirion.
Dylunwyd tlws y llenor iau gan Dilwyn Jones a’r noddwyr blynyddol yn Pethau Penllyn.
Megan Jones o d? Tryweryn oedd yn deilwng o’r Gadair, ym marn y beirniad Lisa Jane Davies, Llandrillo.
Gruffydd ab Owain o d? Tryweryn a wobrwywyd â Thlws yr Ifanc am yr eilwaith a bydd modd darllen eu gwaith yn Pethau Penllyn yn fuan.
A’r canlyniad ar ddiwedd y diwrnod? Ni fu dau d? erioed mor agos ond o drwch blewyn (tri marc!) Lliw oedd y t? buddugol â Thryweryn yn dynn ar eu sodlau.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.