THE latest community news from Bala.
WI
AR 9 Mawrth bu’r WI yn dathlu Dydd Gwyl Dewi.
Roedd yn noson gwahanol. Y pwyllgor wedi penderfynu, er mwyn newid bach i gael sypreis. Cyfle i groesawu pawb yn enwedig yr ymwelwyr o Frongoch, Llandrillo a Maes-y-Waen.
Canwyd ‘Meirion’, a dilynwyd hyn gan gwis a osodwyd gan y pwyllgor. Tîm Gwenda Jones oedd yr enillwyr haeddiannol.
Cafwyd lluniaeth o gawl Cymreig, gyda salad ffrwythau neu gacen gaws i ddilyn. Wedyn daeth yr amser i gael gwybod beth oedd y sypreis. Trefnodd Alyson Price gystadleuaeth tîm i greu cenhinen bedr. Rhaid oedd torri allan, gludo a’u gosod at ei gilydd. Cafwyd ganddi ddyfarniad hwyliog a doniol dros ben a gwerthfawrogwyd hyn gan y gynnulleidfa. Ardderchog!
Diolchodd Kath Hoyle (llywydd) i unrhyw un a oedd wedi cyfrannu at sicrhau noson lwyddiannus iawn.
Gan y bydd yn ymadael â’r Bala cyn hir, priodol oedd manteisio ar y cyfle i ddiolch iddi am ei holl waith dros WI Y Bala yn ystod y blynyddoedd a chynnig ein dymuniadau gorau iddi ar gyfer y dyfodol.
Sioe SIMA
Mae myfyrwyr Safon Uwch Ysgol y Berwyn wedi bod ar daith i Baris lle buont yn ymweld â dwy sioe amaethyddol fwyaf Ewrop. Fel paratoad ar gyfer eu gwaith cwrs trefnodd yr adran amaeth i ddisgyblion y chweched ymweld â ddwy sioe.
Yn gyntaf aeth y disgyblion i’r sioe SIMA sydd yn arddangos peiriannau amaethyddol bach a mawr ac yn dangos gwahanol ffyrdd o hwsmonaeth anifeiliaid. Roedd y disgyblion wedi blino’n lan ar ôl treulio naw awr yn cerdded y 60 acer sydd o dan do yno, felly fel diweddglo cafwyd eistedd a gwylio cystadleuaeth y buchod Charolais.
Bore Llun cafwyd ymweld â sioe SIA (Salon International Agri). Dyma sioe fwyaf Ewrop sy’n hybu’r hyn mae Ffrainc yn ei gynhyrchu o wartheg o bob brîd a hefyd llysiau a thecstilau. Roedd digon yma i ddiddanu pob oedran a phob cefndir.
Cafodd y disgyblion amser gwerth chweil o weld y cynnyrch sydd ganddynt i gynnig a’r ffordd mae amaeth yn amlwg mor bwysig i’r wlad.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.