THE latest community news from Barmouth.

Merched y Wawr

YN DDIWEDDAR cawsom wahoddiad gan gangen Nantcol i noson o ganu traddodiadol Cymreig yng nghwmni’r Band Arall ac aeth nifer dda ohonom draw i Festri Horeb, Dyffryn ynghyd â rhai o ddysgwyr yr ardal, i fwynhau noson o gerddoriaeth. Roeddem i gyd yn arbennig o falch o gael Gwyneth Edwards gyda ni, wedi gwella ar ôl ei damwain cas. Croesawyd pawb yn gynnes gan Anwen y llywydd, cyn iddi roi braslun o hanes y band i ni. Anodd credu, ond maent gyda’i gilydd ers 20 mlynedd bellach ac wedi rhyddhau CD o’r enw ‘Lleuad Borffor,’ ac maent yn edrych ymlaen at fynd ar daith i Estonia ym mis Medi. Diolchodd Celt, arweinydd y band, am y croeso gan ddweud bod ganddo atgofion braf iawn o’i ddyddiau ysgol yn y Dyffryn.

Yna cawsom gyfle i fwynhau gwrando a chanu gyda’r Band, gan orffen gyda’r hen ffefryn ‘Moliannwn’.Roedd merched Nantcol wedi bod yn brysur yn addurno’r Festri’n hardd ac wedi paratoi gwledd ar ein cyfer, a buom yn sg-wrsio a mwynhau cwmpeini ein gilydd dros baned. Talodd Glenys y diolchiadau dros gangen Y Bermo, gan ddiolch yn arbennig i’r merched am baratoi’r bwyd hyfryd, a dymunodd yn dda i’r Band ar eu taith i Estonia. Enillwyd y raffl gan Gwen o Nantcol, a Pam o’r Bermo.