THE latest community news from Botwnnog
Sefydliad y Merched
CAFWYD noson ddiddorol dros ben i gloi’r tymor yng nghwmni John Dilwyn Williams.
Hyfryd oedd cael cwmni aelodau o gangen Llangian yn y cyfarfod a chroesawyd pawb gan y llywydd, Gwyneth Evans, Pont y Gof.
Yn enedigol o’r ardal, gyda chymorth lluniau ar y sgrin, soniodd John Dilwyn yn ddifyr iawn am deulu Plas Nanhoron.
Mawr fu’r sgwrsio i ddilyn â phawb yn amlwg wedi mwynhau yr hanes.
Diweddwyd y noson gyda phaned a thynnwyd amryw o rafflau.
Diolchodd y llywydd i bawb am noson hyfryd dros ben.
Mae’r gangen wedi derbyn gwahoddiad gan aelodau Sarn i ymuno â hwy ar Helfa Drysor ar nos Lun, 4 Medi, i gychwyn tymor yr Hydref.
Oedfa
PREGETHIR yng Nghapel Pont y Gof y Sul yma, 16 Gorffennaf, am 5yh gan Iola Jones, Y Ffôr.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]
Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.