THE latest community news from Bronant.

Merched y Wawr

CAWSOM ein cawl Gwyl Ddewi eleni yn Pentre’ Bach, Blaenpennal. Wedi gair o groeso gan Eirlys Morgan, dwedwyd gras gyda’n gilydd.

Llywydd y noson, Anne Gwynne, roddodd groeso i Beti Griffiths, Llanilar, ein gwraig wadd. Dwedodd fod Beti wedi bod yn aelod gyda ni rai blynyddoedd yn ôl a’i bod yn weithgar iawn yn ei chymuned. Diolchodd Beti am y geiriau caredig, gan ddweud ei bod yn fraint dod nôl atom.

Cafwyd orig hapus wrth iddi sôn am y cymeriadau diddorol oedd wedi cwrdd ar daith bywyd a phan oedd yn brifathrawes Ysgol Llanilar.

Gwnaeth hefyd ddarllen penillion hyfryd. Cyn gorffen dwedodd bod yna un daith mae’n hoff iawn ohoni bob blwyddyn, sef mynd fyny i gapel bach Bethesda Cwm Tynant, uwchlaw Talybont, ardal enedigol ei thad a chynnal oedfa ddiolchgar-wch yno bob hydref, â llawer yn mynd i’w chefnogi.

Diolchodd Anne i Rosa Tandy am y cawl hyfryd a’r pwdinau, y te a’r coffi ac i Ifana ac Adrian am helpu.

Cafodd bob aelod fag dathlu 50 y mudiad, wedi ei gynllunio gan Ruth Jên a cherdyn aelodaeth am oes.

Llongyfarchwn Olwen a Dai Jones ar eu Priodas Ruddem, ac Eluned ac Ieuan Jones ar eu Prio-das Aur.

Yn y chwaraeon daeth Eluned a Edith yn drydydd yn y dominos; Dorothy, Enid a Delyth yn drydydd yn y ddau ddwrn; ac Ann ac Olwen yn drydydd yn y chwist. Da iawn ferched, gydag Edith ac Eluned yn mynd ymlaen i Fachynlleth.

Nos Fercher, 5 Ebrill, Delyth Humphreys oedd llywydd y nos, a rhoddodd groeso i ddwy ferch ddawnus sef Nest Jenkins, Lledrod a Cadi Jones, Ffair Rhos. Y ddwy yn ffrindiau agos a llynedd bu’r ddwy yn ffodus i gael mynd i Batagonia ar daith yr Urdd, taith i hybu’r iaith Gymraeg yn bennaf. Maent yn aelodau gweithgar yn CFfI Lledrod ac yn hoffi cystadlu mewn siarad cyhoeddus, y delyn, actio a barddoni.

Trwy edrych ar sgrin fawr, gwelsom y daith i’r Wladfa yn fanwl, rhy niferus i enwi oedd y llefydd i gyd. Buont yn aros gyda gwahanol deuluoedd a mynd o amgylch yr ysgolion, capeli a’r colegau. Tra yn Trelew buont yn cystadlu yn yr eisteddfod ac ennill.

Diolchodd Nest am y gwahoddiad i ddod atom, hefyd diolch i bawb a fu’n gymorth ariannol iddynt allu mynd i Batagonia. Maent yn gobeithio mynd nôl eto yn y dyfodol. Diolchwyd gan Brenda Jones.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]