THE latest community news from Bronant

Merched y Wawr

DELYTH Humphreys oedd llywydd y noson a’r ddechrau Tachwedd pan roddodd groeso cynnes i David a Nerys Bennett o Dregaron.

Cafwyd cyflwyniad byr gan David, gan ddweud fod ei rieni wedi dod adre o Lundain i redeg Swyddfa Bost Tregaron yn 1966.

Cymrodd David y cyfrifoldeb drosodd yn 1999 ond siom fawr i’r teulu oedd cau y drysau am y tro olaf ar 25 Mai 2016, ar ôl bron 50 mlynedd.

Mewn ychydig o fisoedd wedyn braf oedd gweld y drws a’r agor, gan i Nerys gymryd yr awenau wedyn, gan sôn am ddyfodiad ‘Anrhegaron’ ar safle y swyddfa bost.

Siop yn gwerthu cardiau cyfarch, llyfrau, teganau, dillad, gemwaith, anrhegion Cymraeg a llawer mwy.

Yr hyn sy’n yn gwneud y siop yn wahanol yw’r ffaith fod ganddynt beiriant laser sy’n gallu ysgythru a phersonoli eitemau ar lechen, pren, acrylic a gwydr a dangoswyd nifer o’r eitemau ar sgrin fawr.

Cyn mynd adre bu llawer o brynu ar y nwyddau a diolchodd Nerys am y cyfle i ddangos eu cynnyrch.

Braf oedd croesawu dwy aelod newydd, croeso i Eirwen Hughes a Rhiannon Williams.

Dymunwyd gwellhad buan i Sandra wedi llawdriniaeth yn ddiweddar, hyfryd ei gweld gartref. Penblwydd hapus arbennig i Aeronwen Edwards, ein llwydd eleni.

Enillwyd y raffl gan Aeronwen, Dorothy ac Eirlys Morgan, a gorffennwyd gyda bwyd blasus.

Bydd ein cinio Nadolig yn yr Hafod, Pont-ar-fynach, ar 6 Rhagfyr.

If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]