THE latest community news from Caerwedros
Gweithgareddau’r Pasg
CYFLE i ddod at ein gilydd i ddathlu’r Pasg.
Rhannu’r swper yn Festri Nanternis ar nos Iau Cablyd, 18 Ebrill, am 7.30yh.
Cyfle i fyfyrio ar y Swper Olaf mewn cân, cerdd, llun a distawrwydd.
Croeso i ymuno â ni ar ddydd Gwener y Groglith, 19 Ebrill, yn neuadd Caerwedros am 2yp.
Cynhelir gwasanaeth byr, Cario’r Groes o amgylch yr ardal a dychwelyd i’r neuadd am baned a byns.
Ar Sul y Pasg cynhelir Gwasanaeth a Chymun i ddathlu’r Atgyfodiad yng Nghapel Towyn.
Mae croeso cynnes i bawb i ymuno â ni ar benllanw’r flwyddyn Gristnogol.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.