THE latest community news from Cardigan
Cerddwyr Cylch Teifi
AR gyfer y taith ym mis Rhagfyr, Howard Williams fu’n arwain yn ardal aber Afon Teifi.
Cafwyd taith gylch o Patch i Wbert, trwy’r clwb golff, i lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol.
Er gwaethaf y tywydd garw, daeth criw da unwaith eto, gan fwynhau’r cerdded, y cwmni a’r dysgu am yr ardal, a chlywed am ‘New Brighton’, Plasty Towyn a’r beirdd, Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau, bywyd gwyllt yr aber, a Phen yr Ergyd. Aeth rhai ymlaen wedyn i gymdeithasu dros luniaeth yng Ngwesty Gwbert.
Ar ddydd Sadwrn, 11 Ionawr, bydd Gareth a Mer Evans yn harwain yn ardal Hermon a’r Glôg.
Byddant yn gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon (ger Crymych) (SN 211 319; cod post SA36 0DS) am 10.30yb.
Ar daith glocwedd hamddenol o ryw dwy filltir ar ffyrdd caled; cerdded i lawr i’r Glôg, trwy’r pentref, lan i heol dawel arall sy’n dod â ni’n ôl i’r man cychwyn.
Ni fydd dim sticlau na llethrau serth. Cawn glywed am Chwarel y Glôg, mwyngloddiau plwm Llanfyrnach, a’r rheilffordd.
Bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Nghegin Bella, Canolfan Hermon.
Os nad ydych chi wedi cerdded gyda hwy o’r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: philippa.gibson@gmail. com neu 01239 654561.
If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]







Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.