THE latest community news from Ceredigion
CFfI
CYNHALIWYD Diwrnod Maes CFfI Ceredigion ym Mart Tregaron ar ddydd Sadwrn, 7 Hydref.
Cafwyd cystadlu brwd drwy gydol y dydd, wrth i 16 o glybiau’r sir gymryd rhan gyda dros 160 o aelodau yn cystadlu mewn amryw o gystadlaethau.
Braf oedd gweld nifer o aelodau newydd yn ymgeisio ar y gystadleuaeth ffensio.
Bu clybiau yn cystadlu yn y cystadlaethau sialens ATV, CFfI byw, trimio oen, ffensio iau a hyn, Fferm Ffactor, addurno torch Nadolig a gyrru tractor, gan sicrhau digon o amrywiaeth yn ystod y dydd.
Dyma restr o’r canlyniadau: Stocmon y Flwyddyn, Cwpan Her Cefnmaes: 1, Delyth Jones, Tregaron; 2, Fflur Davies, Penparc; 3, Beca Reed, Penparc; 4, Morys Ioan, Caerwedros.
Tîm dan 26, Cwpan Her Teulu Moelifor: 1, Llangwyryfon; 2, Pontsian; 3, Penparc.
Beirniad Stoc y Flwyddyn 18 oed ac iau, Cwpan Trevor Davies a’r teulu: 1, Beca Jenkins, Pontsian; 2, Lynn Morris, Llanddeiniol; 3, Owain Jones, Llanwenog; 4, Elin Davies, Llanwenog.
Tîm dan 18, Cwpan Her Pantyrhendy: 1, Llanwenog; 2, Pontsian; 3, Llanddeiniol.
Beirniad Stoc y Flwyddyn 14 oed ac iau, Cwpan Her Ffosyfuwch: 1, Angharad Evans, Llanddewi Brefi; 2, Elin Rattray, Trisant; 3, Marged Hopkins, Tregaron; 4, Huw Jones, Felinfach.
Tîm 14 oed ac iau, Cwpan Her Fron: 1, Felinfach; 2, Llangwyryfon; 3, Llanddewi Brefi.
CFfI Byw: 1, Llanwenog; 2, Llangeitho; 3, Felinfach.
Sialens ATV, Cwpan Mid Ceredigion ATB Group: 1, Rhodri a Dyfan, Troedyraur; 2, Huw a Dion, Llangwyryfon; 3, Carwyn ac Iestyn, Mydroilyn.
Gyrru Tractor a Trailer, Tarian Coffa John Bowman: 1, Glyn Hughes, Mydroilyn; 2, Dyfan Ellis Jones, Llangwyryfon; 3, Iwan Jenkins, Felinfach.
Trimio Oen, Cwpan Her Meinir a Sioned Green, Nantgwyn: 1, Trystan Davies, Talybont; 2, Teifion Morgan, Penparc; 3, Caryl Vaughan, Llanddeiniol.
Addurno Torch Nadolig: 1, Cari Davies, Tregaron; 2, Elin Calan Jones, Llangwyryfon; 3, Sioned Owens, Felinfach.
Fferm Ffactor, Cwpan Her IBERS: 1, Troedyraur; 2, Felinfach; cyd 3, Llanddewi Brefi, Lledrod, Talybont a Trisant.
Ffensio Iau: 1, Lledrod; 2, Llanddeiniol; 3, Mydroilyn.
Ffensio Hyn, Cwpan Cilerwisg, Felinfach: 1, Llangeitho; 2, Llangwyryfon; 3, Llanwenog.
Ar ddiwedd y cystadlu ac yn ennill Cwpan Her Pantlleinau roedd clwb Llangwyryfon ac yn derbyn Tlws Coffa Gethin Jones, Deinol am ddod yn ail-fuddugol oedd Felinfach.
Dymuna CFfI Ceredigion ddiolch i bawb a fu ynghlwm â Diwrnod Maes y Sir, drwy feirniadu, menthyg offer a stoc, cyfrif y marciau ac yn stiwardio gydol y dydd.
Diolch yn arbennig i Mart Tregaron a theulu Penlan am ganiatáu i ni gynnal y Diwrnod Maes a diolch i gwmni ‘Heygates’ am noddi’r digwyddiad. Gwerthfawrogwn gymorth pawb yn fawr iawn.
Bydd yr enillwyr yn cynrychioli Ceredigion yn y Ffair Aeaf ar 27-28 Tachwedd ac yn Niwrnod Maes Cymru ar 21 Ebrill yn Sir Gâr.
RABIA VERY successful and enjoyable evening was held at the Llanina Arms, Llanarth on Friday, 20 October.Aled Jones from the Royal Welsh Show gave an interesting talk and the auctioneer was Llyr Jones, Blaencwmerwydd. A great evening, with everyone contributing to a very special cause.There will be a Carol Service at St Non Church, Llanerchaeron on Sunday, 10 December, in aid of RABI, with the artists being YFC members from Felinfach and Mydroilyn.The conductor will be Heledd Williams and the service led by Canon Eileen Davies.If you’re a member of a club, society or group, send your news to [email protected]






Comments
This article has no comments yet. Be the first to leave a comment.